Mae cyn-gapten Cymru wedi canu clodydd y maswr Dan Biggar, sydd wedi ei ddewis ar gyfer yr ornest fawr yn erbyn Lloegr yfory.
Bydd y maswr profiadol yn ennill cap rhif 90 i Gymru brynhawn Sadwrn, ond mae amheuaeth o hyd ymysg y cefnogwyr ai Biggar yw’r dewis iawn, ac a ddylai Wayne Pivac fod yn rhoi mwy o gyfleoedd i’r maswyr ifanc yn y garfan.
“Does dim llawer o gariad at Biggar ar hyn o bryd,” meddai Gwyn Jones.
“Mae cefnogwyr Cymru wedi galw am faswr ymosodol tebyg i’r rhai o’r dyddiau a fu fel [Barry] John, [Phil] Bennett a [Jonathan] Davies.
“Ond yn anffodus, dydy’r chwaraewyr hynny ddim ar gael. Ac o’r chwaraewyr sydd gennym ni i ddewis ohonynt, byddwn i’n dechrau Biggar yn erbyn Lloegr hefyd.”
Er i Dan Biggar a Gareth Davies gael eu tynnu oddi ar y cae yn gynnar yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Alban bythefnos yn ôl, mae Biggar wedi cadw ei le yn y tîm – ond Kieran Hardy sydd yn dechrau fel mewnwr.
Mae Gwyn Jones yn cydnabod mae cyfyng yw doniau ymosodol Dan Biggar, ond mae yn dal i gredu mai ef yw’r dewis goaru.
“Roedd yn chwarae pan gurodd Cymru Loegr yng Nghwpan y Byd yn Twickenham [yn 2015], ef hefyd oedd y maswr yn ystod gêm fythgofiadwy yn erbyn Lloegr yn 2013,” cofia Gwyn Jones.
“Hyd yn oed os nad ef yw’r opsiwn ymosodol gorau, nid yw’n chwaraewyr ofnadwy o bell ffordd.
“Ym mhob agwedd arall o’r gêm mae Biggar ben ac ysgwyddau uwchben y lleill. Ef yw’r ciciwr gorau at y pyst, ef yw’r ciciwr gorau o’i law ac ef yw’r taclwr gorau.
“Mae ganddo hefyd ddwy nodwedd eithaf trawiadol arall. Yn gyntaf, pa mor gystadleuol yn gorfforol yw ef ar y cae. Mae hyn wedi bod yn niweidiol iddo ar adegau, ond ar y cyfan mae ei ddycnwch yn rhyfeddol. Pan fydd Cymru ar ymyl y dibyn, chwaraewyr fel Biggar sydd eu hangen arnoch wrth eich ochr.
“Yr ail elfen yw ei allu yn yr awyr. Mae’n debyg mai ef yw’r gorau yn yr awyr i Gymru. Gan ddisgwyl y bydd Lloegr gyda llinell gefn yn llawn cicwyr, gall cael Biggar yno i ennill peli uchel ymosodol ac amddiffynnol fod yn amhrisiadwy.”
Targedu’r tri mawr
Mae Gwyn Jones hefyd wedi galw am dargedu rhai o chwaraewyr Lloegr sydd wedi bod dan bwysau yn ddiweddar.
“Eu tri chwaraewr momentwm mawr nhw yw Maro Itoje, Billy Vunipola ac Owen Farrell. Mae’r tri dan bwysau i wella eu gêm a tybed a fydd yr anobaith hwnnw’n gwneud iddynt ymdrechu’n rhy galed,” meddai.
“Mae’r tri yn brin o amser ar y cae a heb yr hyder o glwb i syrthio’n ôl arno; os gall Cymru eu rhoi dan bwysau, gallent nhw gael eu gorfodi i wneud camgymeriadau.
“Wedi dweud hynny, dydyn ni ddim wir yn gwybod pa mor dda yw Cymru chwaith ar hyn o bryd.
“Maent wedi bod yn lwcus iawn ac er eu bod nhw wedi dangos ychydig o nodweddion da, rydym eto i weld perfformiad amlwg lle mae eu patrwm ymosod yn creu cyfleoedd.
“Er gwaethaf dechrau anffodus Lloegr, ofnaf y gallent fod yn rhy gryf i ni ddydd Sadwrn. Ond does dim llawer ynddi ac ni fyddai neb yn synnu pe bai Cymru’n llwyddo i sicrhau buddugoliaeth annhebygol arall.”
Bydd Gwyn Jones yn sylwebu ar yr ornest sy’n fyw ar S4C am 4.45 bnawn Sadwrn.