Ni all Shamima Begum ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig i wneud apêl yn erbyn dileu ei dinasyddiaeth Brydeinig, mae’r Goruchaf Lys wedi dyfarnu.
Roedd Ms Begum yn 15 oed pan deithiodd hi a dwy ferch ysgol arall o ddwyrain Llundain i Syria i ymuno â’r grŵp a elwir yn Wladwriaeth Islamaidd (Islamic State) ym mis Chwefror 2015.
Cafodd ei dinasyddiaeth Brydeinig ei dirymu ar sail diogelwch cenedlaethol yn fuan ar ôl iddi gael ei chanfod, naw mis yn feichiog, mewn gwersyll ffoaduriaid o Syria ym mis Chwefror 2019.
Mae Ms Begum, sydd bellach yn 21 oed, yn herio penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddileu ei dinasyddiaeth Brydeinig ac mae am gael dychwelyd i’r DU i fynd ar drywydd ei hapêl.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, dyfarnodd y Llys Apêl mai’r unig ffordd y gall gael apêl deg ac effeithiol yw cael dod i mewn i’r Deyrnas Unedig i wneud hynny.
Heriodd y Swyddfa Gartref y penderfyniad hwnnw yn y Goruchaf Lys ym mis Tachwedd, gan ddadlau y byddai caniatáu iddi ddychwelyd i’r DU “yn creu risgiau diogelwch cenedlaethol sylweddol” ac yn amlygu’r cyhoedd i “risg gynyddol o derfysgaeth”.
Ddydd Gwener (26 Chwefror), dyfarnodd llys uchaf y Deyrnas Unedig na ddylid rhoi caniatâd i Ms Begum ddod i mewn i’r wlad i fynd ar drywydd ei hapêl yn erbyn colli ei dinasyddiaeth Brydeinig.
“Nid yw’r hawl i wrandawiad teg yn rhagori ar bob ystyriaeth arall”
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd yr Arglwydd Reed: “Mae’r Goruchaf Lys yn unfrydol yn caniatáu holl apeliadau’r Ysgrifennydd Cartref ac yn gwrthod croes-apêl Ms Begum.”
Dywedodd llywydd y Goruchaf Lys: “Nid yw’r hawl i wrandawiad teg yn rhagori ar bob ystyriaeth arall, fel diogelwch y cyhoedd.
“Os yw budd cyhoeddus hanfodol yn ei gwneud yn amhosibl i achos gael ei glywed yn deg yna ni all y llysoedd ei glywed fel arfer.
“Yr ymateb priodol i’r broblem yn yr achos presennol yw i’r gwrandawiad gael ei ohirio tan fod Ms Begum mewn sefyllfa i chwarae rhan effeithiol ynddo heb beryglu diogelwch y cyhoedd.
“Nid yw hynny’n ateb perffaith, gan nad yw’n hysbys pa mor hir y gallai fod cyn bod hynny’n bosibl.
“Ond does dim ateb perffaith i gyfyng-gyngor o’r math presennol.”
Yn nyfarniad ysgrifenedig y llys, dywedodd yr Arglwydd Reed: “Mae’n wir, wrth gwrs, y gallai penderfyniad amddifadedd [hynny yw, diddymiad ei dinasyddiaeth] arwain at ganlyniadau difrifol i’r person dan sylw: er na ellir ei gadael yn ddi-wladwriaeth, gallai colli ei dinasyddiaeth Brydeinig, serch hynny, gael effaith ddofn ar ei bywyd, yn enwedig lle mae ei chenedligrwydd amgen yn un nad oes ganddi fawr o gysylltiad gwirioneddol ag ef.
“Ond gallai diystyrru’r penderfyniad hefyd arwain at ganlyniadau difrifol o ran budd y cyhoedd.”