Mae disgwyl i’r Goruchaf Lys ddyfarnu heddiw (Chwefror 26) a fydd Shamima Begum yn cael dychwelyd i’r Deyrnas Unedig i apelio’n erbyn dileu ei dinasyddiaeth Brydeinig.
Roedd Shamima Begum yn 15 oed pan deithiodd hi a dwy ferch ysgol arall o ddwyrain Llundain i Syria i ymuno â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd yn 2015.
Fe gollodd ei dinasyddiaeth Brydeinig ar sail diogelwch cenedlaethol yn fuan ar ôl iddi gael ei chanfod, naw mis yn feichiog, mewn gwersyll ffoaduriaid yn Syria ym mis Chwefror 2019.
Mae Shamima Begum, sydd bellach yn 21 oed, yn herio penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddileu ei dinasyddiaeth Brydeinig ac mae am gael dychwelyd i’r Deyrnas Unedig.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, dyfarnodd y Llys Apêl mai’r unig ffordd y gall hi gael apêl deg ac effeithiol yw cael yr hawl i ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig.
Heriodd y Swyddfa Gartref y penderfyniad hwnnw yn y Goruchaf Lys ym mis Tachwedd, gan ddadlau y byddai caniatáu iddi ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig “yn creu risgiau diogelwch cenedlaethol sylweddol”.
Bydd llys uchaf y Deyrnas Unedig yn rhoi dyfarniad fore Gwener ynghylch a ddylid rhoi caniatâd i Shamima Begum ddod yn ol i’r Deyrnas Unedig.
Bydd y Goruchaf Lys hefyd yn dyfarnu a ddylid caniatáu ei hapêl yn erbyn dileu ei dinasyddiaeth Brydeinig os na fydd hi’n cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig.
Amodau ‘enbyd’
Yn y gwrandawiad ym mis Tachwedd, dywedodd ei chyfreithwyr fod Shamima Begum ar hyn o bryd yn y gwersyll al-Roj yng ngogledd Syria, lle mae’r amodau’n “enbyd”.
Dywedodd yr Arglwydd Pannick QC wrth y llys nad yw Lluoedd Democrataidd Syria, sy’n rheoli gwersyll al-Roj, “yn caniatáu ymweliadau gan gyfreithwyr ac nid ydynt ychwaith yn caniatáu i geiswyr lloches siarad â chyfreithwyr”.
Ychwanegodd yr Arglwydd Pannick os na allai Shamima Begum ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig i lansio apêl effeithiol bod yn “rhaid caniatáu’r apêl” hebddi yno, gan nad oes “unrhyw gam teg a chyfiawn arall y gellir ei gymryd”.
Dywedodd Syr James Eadie QC, sy’n cynrychioli’r Swyddfa Gartref, wrth y llys: “Os ydych chi’n gorfodi’r Ysgrifennydd Gwladol i hwyluso dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, neu os ydych chi’n caniatáu’r apêl sylweddol, yr effaith yw creu pryderon diogelwch cenedlaethol difrifol iawn.”
“Fe briododd hi filwr IS, byw yn Raqqa, prifddinas y caliphate hunanddatganedig, ac arhosodd gyda nhw am tua phedair blynedd tan 2019, pan adawodd o safle olaf tiriogaeth IS ym Maghuz.”
Bydd penderfyniad y Goruchaf Lys yn cael ei gyhoeddi am 9.45yb.