Gallai y briodferch Gwladwriaeth Islamaidd (IS) Shamima Begum wynebu’r gosb eithaf am ei rhan mewn tergysgaeth os ydi hi’n mentro i Bangladesh, meddai gweinidog tramor y wlad.
Dywedodd Abdul Momen nad oedd gan Bangladesh “ddim byd i’w wneud” gyda Ms Begum, a rhybuddiodd y gallai hi gael ei “chrogi.”
Roedd Ms Begum yn un o dair o ferched ysgol a adawodd Bethnal Green, Llundain i ymuno gyda’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn 2015.
Fis Chwefror collodd Ms Begum, sy nawr yn 19 mlwydd oed, ei dinasyddiaeth Brydeinig wedi i’r Ysgrifennydd Cartref ei ddiddymu ar ôl iddi gael ei darganfod mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Syria.
Yn ôl cyfraith rhyngwladol, mae’n anghyfreithlon i ddiddymu dinasyddiaeth unrhyw un os ydi hynny yn eu gadael heb wladwriaeth.
Roedd rhywrai wedi meddwl fod gan Ms Begum hawl i ddinasyddiaeth Bangladesh drwy ei theulu – ond mae swyddogion yno wedi gwadu hynny.
Dywedodd Dr Momen wrth Newyddion ITV: “D’oes gennym ddim byd i’w wneud gyda Shamima Begum. Dydi hi ddim yn ddinesydd o Fangladesh.
“Fe wnaeth he erioed wneud cais am ddinasyddiaeth Bangladesh. Cafodd ei geni yn Lloegr ac mae ei mam yn Brydeinwraig.
“Os ydi unrhyw un yn cael ei ganfod i fod yn gysylltiedig gyda terfysgaeth, mae gennym reol syml; fe fyddan nhw’n wynebu’r gosb eithaf. A dim arall.
“Fe fyddai yn cael ei charcharu ac yn syth bin – y rheol ydi y dylai hi gael ei chrogi.”