Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable wedi disgrifio perfformiad ei blaid yn yr etholiadau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon fel “gwych”.

Dywedodd ei fod yn credu mae safiad ei blaid yn gwrthwynebu Brexit fydd yr allwedd i’w llwyddiant yn y dyfodol.

Dywedodd yr AS dros Twickenham MP wrth y BBC fod llwyddiant y blaid yn ennill 676 o seddi wedi’r bleidlais ddydd Iau oedd “y canlyniadau gorau inni ers ein deugain mlynedd o fodolaeth.”

Ychwanegodd Syr Vince y byddai sefyllfa’r blaid fel un Aros (Remain) yn ennill pleidleisiau iddyn nhw yn yr etholiadau Ewropeaidd cyn hir.

Meddai: “Mae’n glir ein bod yn rym mawr; mae’n glir mai ni ydi’r prif blaid Aros a rydym yn disgwyl gwneud yn dda ar sail hynny. Mae gennym hanes hir o gefnoaeth i Ewrop.

“Pan mae pobl yn ceisio gwneud eu penderfyniad, fe wnan nhw ac fe ddylen nhw bleidleisio i ni, gan wybod fod pob pleidlais yn bleidlais i stopio Brexit.”

Mae’r Rhyddfrydwyr Democrataidd nawr wedi cymeryd yr awenau gan reoli deg o gynghorau  yn Lloegr.