Mae ditectifs ym Mhortiwgal yn ymchilio i bedoffil o dramor ar amheuaeth o gipio Madeleine McCann,
Yn ôl papur newydd Expresso, sydd wedi’i leoli yn Lisbon, roedd Scotland Yard wedi trosglwyddo gwybodaeth i heddlu Portiwgal ynglŷn â’r dyn yr amheuir o fod â rhan yn ei chipio, ac a oedd ym Mhortiwgal fis Mai 2007.
Roedd yr heddlu wedi holi’r dyn ynglŷn â throseddau rhyw honedig yn erbyn plant yr adeg hynny, yn ôl y papur oedd yn dyfynnu ffynhonnell gyfreithiol.
Daw’r adroddiadau ddeuddeg mlynedd wedi diflaniad Madeleine.
Roedd hi’n dair oed pan ddiflanodd tra ar wyliau gyda’i rhieni yn Praia da Luz ar arfordir yr Algarve ar Fai 3, 2007.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Metropolitan Cressida Dick ddydd Iau fod y llu yn dilyn “trywyddau ymholi gweithredol” a gofynnodd am ragor o gyllid gan y Swyddfa Gartref.