Bydd swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn yn gofyn i’r pwyllgor gwaith ddiddymu ei benderfyniadau blaenorol i gau ysgolion cynradd ym Modffordd, Biwmares a Thalwrn, a chodi ysgol newydd yn Llangefni.

Daw’r argymhelliad ar ôl i adolygiad mewnol diweddar o’r broses ymgynghori statudol ddangos fod pryderon am gydymffurfiad gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion (Llywodraeth Cymru) 2013.

Os yw aelodau’r pwyllgor gwaith yn cytuno i ddiddymu y penderfyniadau blaenorol, byddai unrhyw broses ymgynghori statudol newydd, yn gysylltiedig ag ardaloedd Llangefni a Seiriol, yn dilyn anghenion y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018.

Cychwynodd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn yn 2012. Y nod yw creu’r amgylchiadau addysgol gorau posib i benaethiaid, athrawon a phlant lwyddo fydd yn ei dro yn hybu safonau uchel.

Yn ôl y cyngor: “Mae’r broses wedi bod yn un heriol ac wedi golygu penderfyniadau anodd o ran rhesymoli ysgolion er mwyn adeiladu ysgolion newydd ac addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. ”

Hyd yma, mae tair ysgol newydd sbon ar gyfer yr 21ain ganrif wedi eu hadeiladu ac agor yng Nghaergybi, Llanfaethlu a Niwbwrch – buddsoddiad o £22m mewn addysg ar yr ynys.

Mae swyddogion wedi hysbysu Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol o’r bwriad yma.

Bydd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn ystyried y mater ddydd Llun, Mai 20fed.