Mae angen diwygio’r ffordd y mae iechyd yn cael ei reoleiddio yn dilyn sgandal adran mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Darren Miller, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, am i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) gael rhagor o bwerau yn sgil adroddiad damniol i’r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles, Merthyr Tudful.

Dywedodd yr adroddiad fod roedd y systemau yno dan “bwysau eithafol” gydag arweinyddiaeth “israddol”.

Cynhaliwyd yr adolygiad i’r bwrdd iechyd yn dilyn pryderon am 26 o farwolaethau babanod yn yr ysbytai.

Yn siarad ar ail ddiwrnod cynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr yn Llangollen, mi fydd Mr Millar yn dweud bod angen “trawsnewidiad radical” i’r drefn arolygu iechyd.

Eglurodd ei fod hefyd am weld y corff yn dod yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac yn cael pwerau newydd i ymyrryd yn gyflym os oes problemau’n cael eu darganfod.

Mae Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, i ymddiswyddo oherwydd y canfyddiadau.

Dywedodd Mr Gething y byddai’n “camu lan” i’w gyfrifoldebau ac mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bellach dan fesurau arbennig.