Ni fydd Fiona Onasanya yn ceisio cael ei hail-ethol yn Aelod Seneddol Peterborough.

Fe gafodd ei hethol i’r sedd ar ran y Blaid Lafur yn 2017, cyn treulio 28 diwrnod dan glo am ddweud celwydd ynghylch trosedd goryrru.

A’r wythnos hon hi oedd y gwleidydd cyntaf erioed i golli ei sedd dan drefn newydd o ddeisebu i ddisodli Aelod Seneddol, a bydd isetholiad i ddewis ei holynydd ar Fehefin 6.