Mae’r Ceidwadwyr yn blaid sy’n “sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar bob lefel”.
Dyna mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi dweud wrth golwg360 yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn siarad ym Mhafiliwn Llangollen dywedodd bod y blaid yn cynrychioli pobol Cymru ar bob lefel o lywodraeth – o gynghorau at San Steffan.
Ac mi wnaeth hi ganmol Aelodau Cynulliad y blaid am eu gwaith ym Mae Caerdydd.
“Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn gweithio fel yr wrthblaid swyddogol i sicrhau bod y Cynulliad yn gweithio mor dda ag y gallan nhw,” meddai Theresa May wrth golwg360.
“Maen nhw’n dal y Llywodraeth yng Nghymru i gyfrif, ac yn sefyll dros ddiddordebau Cymru.
“Os edrychwch ar record y Ceidwadwyr, mi welwch ein bod yn blaid sy’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar bob lefel…
“Hefyd [rhaid tynnu sylw] at y gwaith mae Alun [Cairns] yn ei wneud yn Ysgrifennydd Gwladol, a’r ffordd mae ef yn sefyll dros Gymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Brexit
Wrth annerch y gynhadledd, adleisiodd Theresa May ei hymrwymiad i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda dêl, a dywedodd ei bod yn “anghytuno’n gryf” â’r rheiny sydd am roi stop ar yr ymadael.
“Gwireddu Brexit yw’r nod,” meddai yn ei haraith. “Rydym eisiau gwneud hynny er mwyn gwthio ein gwlad ymlaen.
“Dw i’n angerddol yn fy nghred mai’r unig ffordd o … gau’r rhwygiadau [yn ein cymdeithas] … yw i adael yr Undeb Ewropeaidd.”
Pleidiau eraill
Dywedodd yn ei haraith y byddai ei phlaid yn “ymladd” yn erbyn gobeithion Plaid Cymru am annibyniaeth, a bu yn beirniadu’r Blaid Lafur.
“Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn methu â gwasanaethu pobol Cymru,” meddai. “Mae Cymru yn haeddu cymaint yn well.”
Hefyd mi gyhuddodd Jeremy Corbyn o feddu ar “agwedd ddi-hid o ddogmatig at ein heconomi”.