Mae Heddlu’r De yn galw ar bobl i osgoi ardal yng Nghaerdydd wedi “digwyddiad” yno yn oriau man y bore ma (Chwefror 26).

Yn ôl adroddiadau, roedd ffrwydrad yn Heol Countisbury, Caerdydd tua 4yb fore heddiw.

Mae’r heddlu wedi apelio ar bobl i osgoi’r ardal tra bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.