Mae grŵp o 17 o gyn-gymnastwyr, gan gynnwys tri oedd wedi cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, wedi nodi eu bwriad i gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn British Gymnastics gan honni eu bod wedi cael eu cam-drin.

Mae’r athletwyr wedi cyflwyno llythyr at gorff llywodraethu’r gamp gan honni eu bod wedi cael eu “cam-drin yn gorfforol a seicolegol”.

Mae’r llythyr yn dweud bod y gymnastwyr rhwng chwech a 23 oed ar adeg y cam-drin honedig, a oedd yn cynnwys “defnydd amhriodol eang o rym corfforol”.

Mae adolygiad annibynnol, a gomisiynwyd gan UK Sport a Sport England, ac a arweiniwyd gan Anne Whyte QC, i ymchwilio i gwynion am gam-drin yn y gamp, yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Dywedodd Jennifer Pinches, a ymddeolodd o gystadlu’n rhyngwladol ar ôl helpu Tîm Prydain i gyrraedd y rownd derfynol yng Ngemau Olympaidd Llundain, fod British Gymnastics wedi treulio gormod o amser yn blaenoriaethu’r “podiwm dros bobol”.

“Mae’n wirioneddol dorcalonnus i wynebu’r gwir, gan wybod lefel y gamdriniaeth yr oeddem ni a chymaint o bobol eraill yn ei dioddef,” meddai Jennifer Pinches, sydd bellach yn gyfarwyddwr cymunedol y grŵp Gymnasts For Change.

Dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch Gymnasts for Change, Claire Heafford bod yr honiadau yn ymwneud a “degawdau o gam-drin systemig, wedi’i annog a’i gelu gan y penaethiaid.

“Mae gobeithion a breuddwydion plant ac oedolion ifanc o gystadlu fel gymnastwyr proffesiynol wedi’u dinistrio ac mae eu cariad at y gamp bellach wedi’i droi yn ofn a dioddefaint,” ychwanegodd.

Mae’r grŵp yn mynnu ymateb gan British Gymnastics sy’n cynnwys ymddiheuriad ffurfiol, iawndal a gwell canllawiau hyfforddi.