Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth frechu newydd heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 26).

Y targed yw brechu pob oedolyn erbyn mis Gorffennaf.

Yn y cyfamser mae’r Frenhines wedi annog y rhai sy’n ansicr am gael y brechlyn i gael eu brechu rhag Covid.

Cafodd y Frenhines ei brechu ym mis Ionawr, a dywedodd ei bod yn deall ei fod yn “anodd” i bobl sydd erioed wedi cael eu brechu, gan eu hannog “i feddwl am bobl eraill ac nid eu hunain.”

Daw ei sylwadau wrth i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gyflwyno’r camau nesaf yn y rhaglen frechu yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae’r camau nesaf yn dilyn y naw grŵp blaenoriaeth – gan gynnwys pawb dros 50 oed – yn cael cynnig y brechlyn.

Mae’n debyg bod y pwyllgor wedi argymell bod blaenoriaeth yn cael ei roi i grwpiau oedran eraill wedi hynny, gyda phobl yn eu 40au yn cael y cyfle i gael eu brechu.

Fe allai fod yn ergyd i’r rhai hynny sydd wedi bod yn galw am roi blaenoriaeth i athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr allweddol eraill yn y rheng flaen.