Mae Pencampwr Anabledd Cyngor Gwynedd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd Seneddol Dwyfor Meirionnydd plaid Propel Cymru, sef y blaid newydd sydd wedi ei sefydlu gan Neil McEvoy.

Fe gafodd y Cynghorydd Peter Read ddamwain hang glider yn 1995, ac mae wedi bod yn paraplegig ers hynny.

Cafodd y gŵr o Rydyclafdy ym Mhen Llŷn ei ethol i Gyngor Gwynedd am y tro cyntaf yn 2008, gan ymgyrchu yn erbyn cynllun i gau ysgolion lleol ar y pryd yn enw plaid Llais Gwynedd.

Pe bai yn cael ei ethol, Peter Reid fyddai’r person cyntaf gydag anabledd i gael ei ethol i’r Senedd.

“Rwyf yn Gymro balch ac mae’n fraint cael fy newis yn ymgeisydd i Ddwyfor Meirionydd lle cefais fy ngeni a fy magu,” meddai Peter Read.

“Wna’i fyth anghofio’r cariad a’r gefnogaeth a gefais gan bobol yr ardal hon yr holl flynyddoedd yn ôl pan gefais fy namwain.

“Y ddamwain honno sydd wedi fy ngwneud y person yr ydwyf heddiw ac rwyf eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, wrth fod yn llais cryf yn y Senedd.

“Rwyf yn ddyledus iawn i’r Gwasanaeth Iechyd ac mi fydda i’n brwydro i wella’r gwasanaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobol Meirion Dwyfor.

“Mae llawer iawn o bobol o Feirionydd o dan anfantais fawr yn gorfod teithio hyd at 70 milltir i gael gwasanaeth gofal iechyd mewn ysbyty.

“Yn fy marn i, dylai Ysbyty Blaenau Ffestiniog, er enghraifft, gael ei adfer i gynnig cyfleusterau llawn, fasa’n cynnwys ymgynghorwyr ac arbenigwyr ar y safle, i leihau amser teithio i gleifion.”

“Mae Cymru angen pencampwr”

Dywedodd Arweinydd Propel Cymru, Neil McEvoy: “Mae Cymru angen pencampwr ac mae gan Meirion Dwyfor un yn Peter Read.

“Yn ei fywyd mae Peter wedi wynebu adfyd enfawr ac wedi dod allan yr ochr arall.

“Mae o’n berson cryf egwyddorol sy’n fodlon brwydro yn erbyn unrhyw anghyfiawnder.

“Mae Dwyfor Meirion yn sedd darged i ni. Mae hi’n ras dau geffyl.”

Ni fydd Dafydd Elis-Thomas, AoS presennol Dwyfor Meirionydd, yn sefyll yn yr etholiad nesaf.

Mabon ap Gwynfor yw ymgeisydd Plaid Cymru.