Mae merch ifanc sy’n dioddef o glefyd ulcerative colitis yn cydweithio gyda Hansh er mwyn annog a hyfforddi pobl sydd ag anableddau i greu cynnwys fideo.

Mae Amber Davies eisoes wedi creu ffilm i Hansh am ei phrofiad o fyw gyda’r cyflwr sy’n golygu ei bod yn gorfod cael bag i gasglu gwastraff ei chorff.

Er gwaetha’i hanabledd, mae’r ferch o Lanfair-ym-Muallt wedi llwyddo i redeg Marathon Llundain, sef 26 milltir.

Mae prosiect ‘Medru’ Hansh yn galw ar bobl anabl ifanc brwdfrydig Cymru i ymuno â’r cwrs ar-lein fydd yn chwalu delweddau traddodiadol yn ymwneud ag anableddau ac anableddau cudd.

Bydd y cwrs, sy’n cynnwys cyfres o seminarau digidol gan arbenigwyr, yn hyfforddi’r cyfranwyr newydd sut i ffilmio, sgriptio, a chyflwyno.

‘Codi ymwybyddiaeth o anableddau cudd’

Ar ôl cael diagnosis o glefyd ulcerative colitis yn ei harddegau mae Amber Davies sy’n 23 oed yn byw gyda stoma hir dymor.

Agoriad neu dwll bach ar y bol yw stoma, ac mae’r bag drosto yn casglu gwastraff y corff.

Eglurodd fod rhannu ei stori hi a chreu cynnwys ar-lein, gan gynnwys ar Hansh, wedi bod yn help mawr iddi hi dros y blynyddoedd diwethaf.

“Codi ymwybyddiaeth o anableddau ac anableddau cudd yw fy mhrif nod i drwy brosiect Medru Hansh,” eglura Amber Davies wrth golwg360.

“Dros y blynyddoedd diwethaf dw i wedi siarad llawer am fyw gydag anableddau cudd – ac mae gwneud hynny wedi bod yn help mawr i mi.”

Bellach mae ganddi dros 20,000 o ddilynwyr ar Instagram ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos ar glawr cylchgrawn Glamour.

“Mae’r cynllun yma nid yn unig yn helpu pobl i ddysgu a chreu ond  hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i’w gilydd ddod ynghyd,” meddai Amber.

“Dw i’n angerddol iawn i helpu pobl eraill i siarad a dangos nad ydy bywyd yn fel i gyd a bod cymryd y cam yna i siarad amdano wir yn helpu.”

Rhai o’r fideos sydd wedi eu rhannu gan bobl anabl ar Hansh

Annog pobl i greu cynnwys

Yn cydweithio ar y prosiect am ddeufis mae cwmni cynhyrchu Boom Cymru, S4C, a’r corff Anabledd Cymru.

Eglurodd Cai Morgan, Pennaeth Cynnwys Digidol Boom Cymru, fod newid wedi bod yn sut mae cynnwys yn cael ei greu a’i gasglu ar gyfer llwyfannau digidol Hansh.

“Mae lot o waith Hansh nawr yn ymwneud gyda thrio annog mwy o bobl ifanc i greu cynnwys i Hansh a chreu cynnwys Cymraeg eu hunain,” meddai.

“Dydy anableddau ddim wastad yn rhywbeth gweledol nag yn amlwg a gobaith prosiect Medru Hansh yw y bydd mwy fyth o bobl anabl yn gallu creu cynnwys, cael arweiniad gan gynhyrchwyr profiadol a rhannu eu cynnwys ar Hansh yn y pen draw.

“Mae clywed lleisiau gwahanol yn hollbwysig i ni, ac mae Amber eisoes wedi gwneud cymaint o waith da yn hyrwyddo anableddau cudd felly ni’n falch iawn ei bod hi’n rhan o’r prosiect yma.

“Yn ystod mis Mawrth ag Ebrill byddwn yn cynnal cyrsiau creu cynnwys i bawb, be bynnag yw eu nam neu gyflwr iechyd.

“Yna byddwn yn cydweithio i ddatblygu’r syniadau cyn rhannu’r cynnwys gyda miloedd ar Hansh ac S4C.

“Y gobaith yw bydd y prosiect yn arwain at gynhyrchu cynnwys rheolaidd y tu hwnt i [gyfnod y] prosiect.”

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan medruhansh.cymru