I ddathlu 30 mlynedd o warchod coed ym Mannau Brycheiniog, mae’r Cyngor Coed yn plannu coed 30 o goed Llwyfen sydd ag ymwrthedd i haint.

Cafodd Wardeiniaid Coed Gwirfoddol Bannau Brycheiniog, sydd newydd ei ffurfio, eu dewis i dderbyn un o’r coed.

Lleoliadau y bydd y coed yn cael eu plannu

Mae gan y goeden Llwyfen Ulmus ymwrthedd llwyr rhag Clefyd Llwyfen yr Iseldiroedd, sy’n addas ar gyfer pob math o bridd, ag ymwrthedd i amodau trefol a gwledig, i amodau oer, poeth a gwyntog iawn ac sydd, felly, yn berffaith ar gyfer Bannau Brycheiniog.

“Roedd coed llwyfen yn nodwedd amlwg o Fannau Brycheiniog ar un adeg ac mae colli cymaint i Glefyd Llwyfen yr Iseldiroedd wedi effeithio cryn dipyn ar y tirwedd,” meddai Sam Harpur, Warden Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chydlynydd Wardeiniaid Coed Bannau Brycheiniog.

“Bydd y nod o blannu rhywogaethau o Lwyfen ag ymwrthedd nid yn unig yn helpu i amlygu plannu coed yn y Parc Cenedlaethol ond hefyd, gobeithio, yn ysbrydoli plannu mwy o goed Llwyfen yn y dyfodol a ddaw yn nodwedd gyffredin unwaith eto o’r tirwedd.

“Bydd plannu’r goeden Llwyfen hon hefyd yn dathlu cychwyn perthynas rhwng y Cyngor Coed ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.”

Mae’r Wardeiniaid yn bwriadu recriwtio deg o Wardeiniaid Coed Gwirfoddol eleni, gyda’r broses yn cael ei chyhoeddi ar eu gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.