Mae Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn ymdrechu i achub plant o Syria sy’n feibion ac yn ferched i eithafwyr Islamaidd.
Daw’r sylwadau yn dilyn marwolaeth babi Shamima Begum, sydd wedi’i hatal rhag dychwelyd i Loegr ar ôl ffoi i Syria yn 15 oed bedair blynedd yn ôl.
Bu farw ei babi bach o niwmonia mewn gwersyll yn Syria.
Ac fe ddaeth i’r amlwg ers hynny bod dwy ddynes arall wedi colli eu dinasyddiaeth Brydeinig am fynd i Syria, a’u bod nhw hefyd mewn gwersyll gyda’u plant.
Mae Sajid Javid, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, hefyd yn cael ei feirniadu am dynnu pasbort Shamima Begum oddi arni.
“Roedd Shamima yn gwybod pan benderfynodd hi ymuno â Daesh ei bod hi’n mynd i wlad lle nad oes llysgenhadaeth na chymorth conswlaidd,” meddai Jeremy Hunt wrth raglen Andrew Marr y BBC.
“Ac rwy’n ofni bod gan y penderfyniadau hynny oblygiadau, waeth bynnag mor ofnadwy ydyn nhw.”
Mae cynlluniau ar y gweill, meddai, i geisio datrys sefyllfa plant yn y fath sefyllfaoedd.
Dydy’r Swyddfa Gartref ddim wedi gwneud sylw am unrhyw achosion unigol.