Mae IAG, perchennog British Airways, wedi cyhoeddi colledion cyn treth o £6.8biliwn yn 2020.
Mae hyn yn cymharu ag elw o £2 biliwn yn 2019.
Roedd refeniw’r cwmni wedi cwympo 69% o £22.2bn i £6.8bn y llynedd yn sgil y pandemig.
Mae nifer y teithwyr sy’n defnyddio cwmnïau hedfan IAG yn parhau’n sylweddol is na’r nifer cyn y pandemig, ac wedi gostwng eto dros gyfnod y Nadolig.
Mae’r cwmni, sydd hefyd yn berchen Aer Lingus ac Iberia, hefyd wedi dweud bod y capasiti yn 2020 yn 33.5% o’r hyn oedd yn 2019, a dim ond 26.6% yn nhri mis olaf 2020.
Dywedodd prif weithredwr IAG Luis Gallego bod y canlyniadau yn “adlewyrchu’r effaith ddifrifol mae Covid-19 wedi’i gael ar ein busnes.”
Mae wedi galw am gyflwyno safonau profion rhyngwladol er mwyn caniatáu i bobl deithio eto pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.