Mae disgwyl i Alex Salmond fynd o flaen panel sy’n ymchwilio i’r modd yr oedd Llywodraeth yr Alban wedi ymchwilio i honiadau o aflonyddu rhywiol yn ei erbyn.

Fe fydd cyn-brif weinidog yr Alban yn rhoi tystiolaeth i’r panel ynglŷn â’r ymchwiliad ac yn wynebu cwestiynau am ei honiadau bod Nicola Sturgeon wedi camarwain y Senedd ac wedi torri’r cod gweinidogol.

Daeth i’r amlwg bod y swyddog oedd yn ymchwilio i’r honiadau wedi cael cysylltiad blaenorol gyda’r ddwy ddynes oedd wedi gwneud cwynion yn ei erbyn.

Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o’r 13 cyhuddiad yn ei erbyn ac fe dderbyniodd iawndal o £512,250 ar ôl herio cyfreithlondeb ymchwiliad y Llywodraeth.

Cafodd pwyllgor ei sefydlu i ymchwilio i weithredoedd y Llywodraeth.

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud nad oed “unrhyw dystiolaeth” bod yna gynllwyn yn erbyn Alex Salmond ac mae hi wedi gwadu dweud celwydd wrth y Senedd.

Mae disgwyl iddi ymddangos gerbron y pwyllgor i roi tystiolaeth ddydd Mercher nesaf.