Mae Mark Drakeford wedi galw am “setliad datganoli cryfach” wrth annerch cynhadledd rithwir Llafur Cymru heddiw (dydd Gwener, 26 Chwefror).

Mae arweinydd Llafur Cymru, a Phrif Weinidog y wlad hon, wedi sôn droeon am ei gefnogaeth i setliad ffederal i’r Deyrnas Unedig.

Ac atseiniodd hynny wrth draddodi araith ar-lein i aelodau ei blaid, gan arddel manteision “home rule“.

“Mae angen setliad datganoli cryfach arnom,” meddai. “Setliad lle byddwn yn sicrhau hunan-reolaeth i Gymru oddi fewn i Deyrnas Unedig lwyddiannus.

“Gwlad sydd yn edrych allan at y byd, nid un sy’n genedlaetholgar [nationalist].

“Ie tros Gymru, wrth gwrs – dyna fu fy safiad ar hyd fy oes – ond ie i Gymru sydd yn cymryd perchnogaeth o’i ffawd trwy weithio â phobol yn yr Alban, Lloegr, a Gogledd Iwerddon. Dyma genhedloedd sydd yn rhannu ein gwerthoedd blaengar.

“Ie i Gymru sydd â’r hyder o wybod ein bod ni ar ein gorau pan rydym yn chwalu rhwystrau, yn hytrach na’u hadeiladu.

“Ie i Gymru lle rydym yn creu dyfodol ochr yn ochr ag eraill, nid yn eu herbyn, neu er gwaetha’ nhw.”

Hefyd, ymosododd ar fethiannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed, gan alw’r Blaid Geidwadol yn “analluog” a datgan nad yw busnes fel arfer yn opsiwn.

Y gynhadledd

Caiff y gynhadledd rithwir yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 26 a Mawrth 1, ac mi fydd llu o aelodau blaenllaw’r blaid yn cymryd rhan.

Ymhlith y ffigyrau adnabyddus hynny bydd Angela Rayner, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur; Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe; a Nia Griffith, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi mi fydd Keir Starmer, Arweinydd y Blaid Lafur, yn cynnal ‘ymweliad rhithwir’ â Chymru.

San Steffan

Llywodraeth Cymru ac Aelodau Senedd San Steffan yn ymateb i benderfyniad gwariant ‘lefelu i fyny’

ASau yn ymateb yn y ddadl flynyddol ar faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, a datganiad ysgrifenedig chwyrn gan Lywodraeth Cymru

“Dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn gallu cario ymlaen fel y mae hi heddiw”

Ond ‘nid annibyniaeth yw’r unig opsiwn’ medd Mark Drakeford

“Rhaid ar ail-luniad radical o’r Deyrnas Unedig,” medd Mark Drakeford

Ond “syniadau ddoe, gan blaid ddoe,” medd Plaid Cymru