I nodi ‘Diwrnod Gweithio Eich Oriau Priodol’ mae Undeb TUC Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ymchwil sydd yn dangos fod gweithwyr yng Nghymru wedi gweithio gwerth £717 miliwn o oramser yn ddi-dâl y llynedd.
Heddiw mae’r undeb yn annog gweithwyr i ddiwedd eu shifftiau ar amser ac yn gofyn i reolwyr gefnogi staff rhag llethu eu gweithwyr.
Yn ôl y gwaith ymchwil mae gweithwyr yng Nghymru yn gwneud mwy oriau yn ddi-dal nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Roedd 8.4% o gyflogeion yng Nghymru wedi gwithio goramser cyfartalog o 8.6 awr yr wythnos yn ddi-dâl. Mae hynny’n cyfateb â £6,841 y flwyddyn o gyflog yn mynd yn ddi-dâl.
Ymhlith y gweithwyr oedd yn gweithio’r mwyaf o oramser yn ddi dâl oedd rheolwyr, cyfarwyddwyr ac athrawon.
‘Baich annheg’
“Yn ystod y pandemig dydy’r mwyafrif o bobol ddim wedi teimlo fod modd iddynt gwyno am ddwysedd gwaith,” Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
Maen nhw’n ddiolchgar o gael swydd, ond mae’r ffigyrau hyn yn dangos y raddfa anhygoel o waith sy’n mynd yn ddi-dâl yng Nghymru a’r baich annheg sydd wedi ei roi ar lawer o weithwyr.”
Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno ‘Cyllideb Gweithwyr’ i ddarparu’r cyllid sydd ei angen i fuddsoddi mewn swyddi a seilwaith i sicrhau y gall pob gweithiwr allweddol yng Nghymru gael codiad cyflog, ac ymrwymo i godi’r isafswm cyflog i £10 yr awr o leiaf.
£8.75 yw’r isafswm cyflog i bobol dros 25 mlwydd oed ar hyn o bryd.
“Mae angen i Lywodraeth y DU roi’r cyllid mewn lle i sicrhau y gall pob gweithiwr allweddol gael codiad cyflog,” ychwanegodd Shavanah Taj.
“Ac er mwyn diogelu swyddi a busnesau, dylid ymestyn ffyrlo i ddiwedd y flwyddyn o leiaf.”
Bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi cyllideb 2021 ddydd Mercher nesaf, Mawrth 3.