Mae Gweinidog y Gymraeg wedi ceryddu swyddog o’r maes meddygol am gymharu sefyllfa’r di-Gymraeg yng Nghymru ag “apartheid”.

Mae James Moore yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), corff hyfforddi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a daeth ei sylwadau mewn neges Facebook.

Dywedodd y swyddog iechyd, sy’n byw yn Llansteffan ond sy’n hanu o Sheffield, bod profiad pobol di-Gymraeg yng Nghymru yn gyfystyr â phrofiad pobol dduon yn Ne Affrica hyd at yr 1990au.

Roedd ei sylw, yn ôl adroddiad nation.cymru, yn ymateb i stori ynghylch cynlluniau i droi ysgol cyfrwng Saesneg yn un cyfrwng Cymraeg.

“Mae sylwadau [Cyfarwyddwr Cynorthwyol] HEIW ar Gymraeg yn hollol annerbyniol,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ar Twitter.

“Dwi wedi gofyn i drafod y mater gyda Chadeirydd HEIW fel mater brys.”

Yn ôl adroddiadau, mae HEIW wedi dweud eu bod nhw ddim yn cydweld â sylwadau’r aelod staff.

Beth ddywedodd James Moore?

“Yr iaith Saesneg yw un o anrhegion [export] pwysicaf y Deyrnas Unedig i’r byd, ac mae’n rhoi mantais anferthol i ni gyd yn y byd,” meddai.

“Mae unrhyw beth sydd yn tanseilio hyn – yn enw cenedlaetholgarwch eithafol [nationalist zealotry] – yn ein niweidio ni i gyd.

“Dychmygwch pe baech yn newid y gair Saesneg i ‘du’ neu (fel y drefn yn Ne Affrica yn hanesyddol) ‘o liw’… efallai dylai’r di-Gymraeg ddefnyddio bysys gwahanol? Ffynhonnau dŵr gwahanol o bosib?

“Yn debyg i De Affrica lle’r oedd y gwynion yn lleiafrif bychan, mae’n bryd i’r 80% di-Gymraeg wrthwynebu’r gormeswyr a rhoi stop ar yr apartheid sy’n mynd rhagddo.”

Yn ddiweddarach dywedodd bod “dwyieithrwydd yn grêt mewn sawl rhan o’r byd” ond bod agweddau “cibddall” yn arwain at Gymru’n methu ar lefel rhyngwladol.

Ategodd bod “cenedlaetholdeb plentynnaidd i weld yn gwbl gysylltiedig â’r Gymraeg”.