Credir mai busnes watsiau bach o Gaerdydd yw’r cwmni cyntaf yn y byd i ddefnyddio technoleg talu newydd sy’n caniatáu i gwsmeriaid brynu eitemau gyda cryptocurrency.
Mae Watches of Wales yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd symud i dderbyn arian digidol fel Bitcoin ac Ethereum yn cynnig “profiad VIP” i gwsmeriaid ledled y byd – a’u bod wedi’u hysgogi i dderbyn yr arian newydd gan awydd “i symud gyda’r oes”.
Mae’r dechnoleg dalu, Utrust, yn hwyluso trafodion gydag unrhyw un o’r cryptocurrencies mawr ac yn caniatáu i gwsmeriaid ddewis pa asedau digidol i dalu gyda nhw fel y gallant fanteisio ar amodau’r farchnad.
Yna, gyda Utrust, mae’r arian digidol yn cael ei droi’n arian parod i fusnesau ar unwaith ac yn awtomatig – mae masnachwyr sydd eisoes yn derbyn taliad crypto yn gorfod ei drosi eu hunain.
Mae’r gwasanaeth talu wedi’i integreiddio ym mhlatfform masnachu Shopify, sy’n caniatáu i unrhyw un sefydlu siop ar-lein a gwerthu eu cynnyrch.
Sefydlwyd cwmni teuluol Watches of Wales gan Paul Hornblow yn 2013 ac mae’n cyflogi wyth o bobl yn ei siop yn Arcêd Morgan Caerdydd.
‘Cwmni Cymreig balch’
Mae gan y cwmni drosiant blynyddol o ychydig o dan £7 miliwn ac mae wedi gwerthu watisau moethus i sêr chwaraeon Cymru gan gynnwys Aaron Ramsey, George North a Brett Johns.
Dywedodd Mr Hornblow: “Rydym yn gwmni Cymreig balch – ac yr un mor falch o’r ffaith mai ni yw’r cwmni cyntaf, nid yn unig yng Nghymru, ond y byd i gyd, i ddefnyddio’r math hwn o daliad cryptocurrency.
“Rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu profiad VIP i gwsmeriaid ers i ni ddechrau’r busnes hwn dros saith mlynedd yn ôl.
“Fel cwmni rydyn ni eisiau symud gyda’r oes. Mae gennym gleientiaid o bob cwr o’r byd sydd eisoes yn heidio at arian digidol.
“Dyma’r dyfodol i fanwerthwyr ar-lein, yn enwedig ar ôl blwyddyn pan fu’n rhaid i lawer o gwmnïau gau eu siopau ar y stryd fawr a symud ar-lein oherwydd pandemig y coronafeirws.
“Rydym eisoes wedi cael cwsmeriaid yn talu am ein cynnyrch gyda cryptocurrency sy’n dangos ein bod yn iawn i fynd i’r cyfeiriad hwn. Gallaf ond ei weld yn tyfu yn ystod y blynyddoedd nesa’.”
Dywedodd prif weithredwr Utrust, Sanja Kon: “Rydym yn mynd i farchnad enfawr fel Shopify ac rydym yn ei wneud gyda rhaglen newydd sy’n ychwanegu gwerth i fasnachwyr ac i gwsmeriaid.
“Mae ein masnachwr cyntaf i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, Watches of Wales, yn enghraifft berffaith o sut y gallwn helpu unrhyw fath o fusnes.”