Mae gweinidog wedi dweud y bydd y rhaglen a gynlluniwyd i ddisodli cynllun cyfnewid myfyrwyr a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig “mynediad ehangach”.

Fe wnaeth Gweinidog Swyddfa’r Alban, Iain Stewart AS, amddiffyn y cynllun Turing pan ymddangosodd mewn pwyllgor yn San Steffan ddydd Iau (Chwefror 25).

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi disgrifio Cynllun Turing, y cynllun fydd â’r nod o lenwi’r bwlch, fel un “gwael iawn”, a chan ysgrifennu ar golwg360 dywedodd Huw irranca-Davies ei bod yn warthus bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lladd Erasmus”.

Mae’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban yn dymuno parhau i ddefnyddio cynllun Erasmus yr Undeb Ewropeaidd y tu hwnt i ddiwedd cyfnod pontio Brexit ond mae’r cais hwnnw wedi ei wrthod gan taw’r “unig fodd o ail ymuno ag Erasmus+ yw fel y Deyrnas Unedig gyfan, neu ddim o gwbl,” meddai Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop.

“Sefyllfa o golled llwyr”

Gofynnodd Peter Wishart AS yr SNP a oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi’r cais i aros yn Erasmus yn y ffeil “i’w hanwybyddu”.

Dywedodd Iain Stewart nad oedd y Llywodraeth wedi cymryd ymagwedd “ddogmatig” yn ystod trafodaethau Brexit ac wedi penderfynu aros mewn cynlluniau eraill fel trefniadau ymchwil Horizon.

Dywedodd: “Gydag Erasmus, yr hyn a benderfynwyd gennym oedd – mae ganddo lawer o fanteision ond credwn fod ffordd well o sicrhau’r manteision hynny.

“Rwy’n credu y bydd y cynllun newydd yn ehangu ac yn dyfnhau’r cysylltiadau rhyngwladol sydd gan fyfyrwyr.

“Rydyn ni eisiau [i’r cynllun] gael mynediad ehangach, bydd yn caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr mewn colegau, hyd yn oed disgyblion ysgol, i gymryd rhan ynddo.”

Dywedodd yr Aelod o Senedd Ewrop, David McAllister, sydd o’r Almaen ac sy’n gadeirydd Grŵp Cydlynu’r Deyrnas Unedig yn Senedd Ewrop: “Mae hon yn sefyllfa o golled llwyr.”

“Yr wyf yn siomedig iawn, yn enwedig gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud yn wreiddiol y byddent yn barod i barhau i gymryd rhan yn y rhaglen hon o gydweithredu academaidd.

“Mae’n bwysig tynnu sylw at y gall y Deyrnas Unedig ddod yn ôl ar unrhyw adeg os yw’n dymuno adolygu ei phenderfyniadau.”

Pen ac Ysgwydd Huw Irranca-Davies

‘Mae’n warthus bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lladd Erasmus’

Huw Irranca-Davies

“Gwae nhw os nad yw’r cynllun newydd yn un da” medd Huw Irranca-Davies

Yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod cais Cymru i fod yn rhan o gynllun Erasmus+

“Yr unig fodd o ailymuno ag Erasmus+ yw fel y Deyrnas Unedig gyfan, neu ddim o gwbl,” meddai Ursula von der Leyen