Mae cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (yr NPCC) wedi beio “blinder” ar y cyfyngiadau symud am gynnydd yn nifer y bobl sy’n torri rheolau Covid-19.

Daw hyn wrth i ddata a gyhoeddwyd gan yr NPCC yn dangos bod cyfanswm o 5,751 o hysbysiadau cosb benodedig wedi’u cyhoeddi gan yr heddlu yng Nghymru rhwng  Mawrth 27 y llynedd a  Chwefror 14 eleni.

Ac mae’r ffigyrau newydd ddangos bod bron i 40% o’r holl ddirwyon a roddwyd am dorri rheoliadau coronafeirws yng Nghymru a Lloegr wedi’u rhoi yn y pedair wythnos ddiwethaf.

Dywedodd cadeirydd yr NPCC, Martin Hewitt: “Rydyn ni wedi bod yn byw gyda hyn ers 11 mis, mae’n anodd iawn, mae’n cyfyngu ar fywydau pobl.

“Mae’r niferoedd yn dweud bod mwy o bobol wedi torri’r rheolau ac o dan yr amgylchiadau (dydyn nhw) ddim wedi cymryd yr anogaeth rydyn ni wedi’i rhoi iddyn nhw, rydyn ni wedi rhoi dirwyon iddyn nhw, o gofio y byddai llawer o’r dirwyon hynny wedi mynd allan mewn digwyddiadau torfol.”

Monitro’r cyfryngau cymdeithasol

Dywedodd Martin Hewitt fod swyddogion yn monitro’r cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod digwyddiadau posibl, gan ddisgrifio partïon tŷ fel rhai “niwsans arbennig”.

Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod tri pherson yng Nghymru wedi derbyn dirwy o £10,000 am ymgynulliad torfol o fwy na 30 o bobl, gan gynnwys rêfs anghyfreithlon, partïon, a phrotestiadau, a bod tri arall yng Nghymru wedi cael dirwy am fethu hunanynysu ar ôl cyrraedd o wlad ar restr cwarantin.

“Mae synnwyr cyffredin yn dweud fod rhywun sy’n cynnal parti yn ei gartref yn ymwybodol iawn bod yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn anghywir,”  meddai Martin Hewitt.

“Bydd ein patrolau pwrpasol ychwanegol ledled y wlad yn parhau i gefnogi’r rheini ohonom sy’n aberthu’n sylweddol wrth ddilyn y rheolau drwy gymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai nad ydynt.”