Mae perchnogion busnes yn Aberystwyth wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu canol trefi yn eu cynlluniau i adfer yr economi.
Mae nifer o berchnogion busnes o’r farn byddai llunio amodau ffafriol i ddenu busnesau bach, annibynnol i’r Stryd Fawr yn gam yn y cyfeiriad cywir.
“Annibynnol yw’r ffordd ymlaen”
Mae Angharad Morgan, perchennog Siop Inc, sy’n gwerthu llyfrau a nwyddau Cymraeg yn Aberystwyth wedi croesawu’r ymroddiad gan y Llywodraeth.
“Yn bendant, rwy’n croesawu hyn,” meddai, “mae angen gwneud rhywbeth i ganol trefi, nid dim ond Aberystwyth ond ar draws y wlad.”
Eglurodd bod Aberystwyth wedi colli sawl siop fawr dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys Clarks a Dorothy Perkins, sy’n golygu bod fwy fyth o adeiladau’n eistedd yn wag.
“Rwy’n teimlo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod busnesau annibynnol yn dechrau popo lan ym mhob man,” meddai, “does dim ond angen edrych ar gyfryngau cymdeithasol i weld hynny.
“A falle bod angen denu pethau fela i ganol y dref, yn hytrach nag siopau mawr – efallai mai annibynnol yw’r ffordd ymlaen.”
Er hynny, dywedodd y byddai rhaid ail-edrych ar gyfraddau rhent uchel yr ardal, cyn bod modd i hynny ddigwydd.
Teimlai bod Aberteifi yn enghraifft dda o rywle sydd wedi llwyddo i greu cymuned o fusnesau bach, annibynnol.
“Profi rhywbeth gwahanol”
Ym marn Aled Rees, perchennog Siop y Pethe, Aberystwyth mae dirywiad y Stryd Fawr wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bellach, ond fod y pandemig wedi amlygu hynny ymhellach.
“Mae angen newid y ffordd mae pobol yn gweld y stryd fawr,” meddai, “dod â mwy o brofiadau, dim jest siopau, i ganol y dref.
“Dydw i ddim eisiau i’r trefi fod llawn cadwyni fel Starbucks a Costa, rydw i eisiau gweld fwy o gyfleodd i bobol ddatblygu busnesau bach yn lleol – bach fwy niche.”
Dywedodd ei bod hi’n “bwysig fod pobol yn cael profi rhywbeth gwahanol” ac nad yw hynny o reidrwydd yn golygu gwariant sylweddol.
Mae hefyd o’r farn bod angen edrych ar y posibilrwydd o ddarparu cyfraddau tecach a chymorth ariannol ychwanegol i fusnesau newydd.
“Mae’r landlords yn cadw rhent yn eithaf uchel,” meddai, “mae’r dreth wedi dod i lawr i ddim, sydd wedi helpu ni dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Ond efallai bod angen ail-edrych ar hwnna – bod y rate am ddim am gyfnod ar ôl i rywun sefydlu busnes,” meddai.
Ychwanegodd bod angen buddsoddi i wella gwelededd cyffredinol canol trefi hefyd.
“Mae’n amlwg bod angen gwneud rhywbeth”
Mae Ceredig Davies yn Gynghorydd Sir i’r Demcratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Aberystwyth ac yn berchen ar siop anrhegion Mona Liza, yn y dref.
“Mae’n amlwg bod angen gwneud rhywbeth ac rwy’n croesawu’r ffaith eu bod nhw wedi penderfynu edrych i mewn i hyn a’i ariannu fe,” meddai, wrth ymateb i gynlluniau’r Llywodraeth.
Er hynny, rhybuddiodd bod gofyn am gydweithio rhwng sawl asiant i gyflawni’r weledigaeth, gan gychwyn drwy newid meddylfryd landlordiaid.
“Y peth yw, mae’n rhaid iddyn nhw sylweddoli bod nhw ddim yn gallu gofyn am yr un rhent maen nhw wedi yn hanesyddol,” meddai.
“Maen nhw wedi gweld y siopau yma fel ffynhonnell arian arbennig o dda.”
Dywedodd hefyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor edrych ar yr ochr gynllunio er mwyn sicrhau bod modd i ganol trefi gael eu defnyddio i wireddu anghenion penodol y bobl leol.
“A yw ein polisïau ni yn cydymffurfio hefo beth sydd angen ar y stryd fawr?” gofynnai.
“Efallai bydd angen newid rhai ohonynt yn i dai, i lefydd bwytai neu adloniant – ar hyn o bryd mae’r stryd fawr wedi eu penodi jest i retail.”
“Felly byddai rhaid edrych ar hynny hefyd,” meddai.
Adfywio canol trefi wrth galon cynllun adfer yr economi ar ôl Covid-19