Bydd gwasanaeth newyddion i Gymru gyfan, ac sydd yn “ffafrio annibyniaeth”, yn cael ei lansio ddydd Gwener.

Bydd gwefan Herald.Wales yn adrodd newyddion sy’n berthnasol i Gymru gyfan, ac yn darparu gwasanaeth Cymraeg yn ogystal â Saesneg.

Cwmni o Sir Benfro, Herald News UK Ltd, sydd yn gyfrifol am y wefan, ac mi fydd yn cael ei lansio ddydd Gwener, Chwefror 26.

Herald News UK Ltd sydd hefyd yn gyfrifol am y Pembrokeshire Herald, gwasanaeth newyddion (print ac ar lein) sydd wedi bod yn adrodd newyddion y sir honno ers 2013.

“Mi fyddwn yn adrodd pob safiad gwleidyddol,” meddai’r golygydd gwleidyddol, Jon Coles.

“Safiad Herald.Wales yw y dylid bod gan Gymru ddewis ynghylch bod yn wlad annibynnol ai peidio. Dyw hynny ddim yn golygu y byddwn ni’n blatfform anfeirniadol sydd o blaid annibyniaeth.

“Rydym yn realistig am yr heriau mae annibyniaeth yn peri i’n gwlad. Mi fyddwn yn adrodd pob ochr o’r ddadl fel bod ein darllenwyr yn medru dod i gasgliadau eu hunain ynghylch dyfodol Cymru.

“Er hynny mi fydd gennym agwedd sy’n ffafrio annibyniaeth i Gymru.”

‘Ymddangosiad The National yn syrpreis i ni’

Daw’r cyhoeddiad am y gwasanaeth newydd hwn dim ond bythefnos wedi cyhoeddiad The National Wales, platfform cenedlaethol newydd arall a fydd yn lansio ar Fawrth 1.

Mae Jon Coles wedi awgrymu y bu rhywfaint o anghydweld rhwng y ddau wasanaeth – ac yn benodol â New Media Wales, sefydliad a ffurfiodd y gwasanaeth arall.

“Roeddem wedi bwriadu lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond daeth ymddangosiad The National – gan Newsquest, cwmni o Lundain sydd â pherchnogion o’r UDA – yn syrpreis i ni,” meddai.

“Roeddem ni eisoes wedi seto lan ac yn treialu ein gwefan, ac yn ei addasu dros yr hydref.

“Roeddem ymhlith noddwyr cyntaf New Media Wales, ac roeddem yn edrych ymlaen at weithio â nhw er mwyn darparu newyddion annibynnol ar-lein.

“Roedd yn syndod ac yn siom i mi pan ffurfiodd New Media Wales bartneriaeth gyda Newsquest. Roedd yn rhaid i’n cynlluniau newid, ac felly penderfynom lansio’n gynt.”