Mae cynnig gan Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Llafur yng Nghymru i ddefnyddio arian heb ei ddyrannu o’r gyllideb nesaf i ehangu prydau ysgol am ddim wedi methu.

Roedd y cynnig yn galw ar Lywodraeth Llafur yng Nghymru i ddefnyddio arian heb ei ddyrannu o’r gyllideb nesaf i ehangu prydau ysgol am ddim i’r 70,000 o blant mewn teuluoedd ar gredyd cyffredinol sydd ddim yn gymwys.

Ond fe fethodd y cynnig ar ôl i Lafur bleidleisio yn erbyn.

Mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu yn llym gan nifer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AoS Ynys Môn a Leanne Wood, AoS Rhondda, eu bod “yn siomedig iawn”.

 

Daw’r bleidlais y prynhawn yma yn dilyn galwad yn gynharach heddiw gan Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon, y dylai rhagor o blant yng Nghymru fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Daeth ei galwad ar drothwy y ddadl yn y Senedd ynghylch yr union fater hwn.

Dywedodd Beth Winter bod y Llywodraeth wedi gwneud “gwaith anhygoel” i fynd i’r afael â thlodi bwyd ymhlith plant.

Ond roedd yn pryderu am fod 70,000 o blant sydd yn byw mewn tlodi yng Nghymru ddim yn gymwys, a dywedodd bod “angen gweithredu pellach”.

“Dw i’n galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod plant i deuluoedd sydd ar Gredyd Cynhwysol, neu fudd-dal tebyg, yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim,” meddai.

Roedd hefyd yn credu y dylid bod plant sydd “methu cael at gyllid cyhoeddus” yn gymwys, ac y dylai bod prydau bwyd am ddim i bob baban mewn ysgolion.

Hen ddadl, dadl newydd

Yn gynharach heddiw fe fu AoSau yn trafod cynnig Plaid Cymru i sicrhau bod plant i deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol, neu sydd methu cael at gyllid cyhoeddus, yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Ddechrau’r mis, methwyd a phasio gwelliant gan Blaid Cymru ar y mater oherwydd gwrthwynebiad y grŵp Llafur yn y Senedd.

Er hynny, mi siaradodd dau Aelod o’r Senedd o blaid gwelliant y Blaid – wnaeth y ddau bleidleisio gyda’r chwip yn y pendraw.