Dylai mwy o blant yng Nghymru fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, yn ôl dau Aelod Llafur o’r Senedd.
Bu AoSau yn trafod y mater yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 9) yn ystod dadl am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Roedd Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant yn galw am ymestyn prydau bwyd am ddim i deuluoedd sydd yn derbyn budd-daliadau Credid Cynhwysol (Universal Credit).
Methodd y gwelliant â chael ei basio ond yn ystod y sesiwn, fe wnaeth dau AoS Llafur mainc cefn anelu rhywfaint o feirniadaeth at eu llywodraeth.
Dywedodd Mike Hedges fod angen i weinidogion “ymrwymo i edrych” i mewn i’r mater, a dywedodd Alun Davies fod y Llywodraeth “ar ochr anghywir y ddadl”.
Mi bleidleisiodd y ddau AoS mainc cefn gyda’r Llywodraeth (yn erbyn y gwelliant) yn y pendraw. Mi bleidleisiodd AoSau y Ceidwadwyr gyda Phlaid Cymru ar y mater hwn.
Pleidleisiodd 17 o blaid, 30 yn erbyn, ac fe wnaeth tri Aelod atal eu pleidlais.
Rhaid rhoi ystyriaeth
Dywedodd Mike Hedges ei fod yn gytûn gyda Phlaid Cymru am y mater, ac fe wnaeth e ganmol ei blaid am addasu ei pholisi (mae plant addysg breifat bellach wedi’u neilltuo o’i chynlluniau).
“Dw i’n gobeithio y bydd yna ymateb positif gan Lywodraeth Cymru i’r mater o ariannu prydau bwyd am ddim i’r bobol rheiny sydd ar fudd-daliadau,” meddai.
“Dw i’n credu bod angen edrych ar hyn. Efallai nad yw pasio penderfyniadau yn ffordd bositif o fynd ar ôl hyn. Ond rhaid i’r Llywodraeth ymrwymo i edrych ar hynny.
“A rhaid edrych ar faint fydd y gost, ac o le ddaw’r arian.”
Safiad nad yw’n “gredadwy”
Roedd gan Alun Davies eiriau tipyn cryfach am y mater, a bu iddo erfyn ar i’r Llywodraeth newid ei safiad.
“Dw i’n cytuno â’r hyn oedd gan Mike Hedges i’w ddweud am brydau ysgol am ddim,” meddai.
“Dw i’n credu bod gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma yn gywir ar y cyfan.
“A dw i’n credu bod yn rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â hyn. Mae’r Llywodraeth ar ochr anghywir y ddadl hon. A dw i’n gobeithio bydd y Llywodraeth yn cydnabod hynny.
“A dw i’n gobeithio bydd y Llywodraeth yn cydnabod nad yw’r safiad yn gynaliadwy, nac ychwaith yn gredadwy, ar y mater yma, pan fydd yn dychwelyd i’r siambr.”
“Penderfyniadau difrifol”
Roedd y gwelliant yn galw am ariannu’r prydau ysgol â chyllid y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei ddefnyddio i ddelio â’r pandemig.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, y byddai yna lai o arian i’r gwasanaeth iechyd ac i gynghorau lleol pe bai’r cyllid yma’n cael ei ddefnyddio.
“Dyma benderfyniadau difrifol y mae’n rhaid i ni eu gwneud pan rydym yn galw am ragor o gyllid ar gyfer rhannau o’r gyllideb,” meddai.
Ategodd ei bod yn agored “i bob un opsiwn sydd ar gael i ni” ond bod angen cydnabod y rhwystrau ariannol sy’n dylanwadu ar bob penderfyniad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at y Pasg 2022.
Mae Marcus Rashford, pêl-droediwr enwog sydd wedi bod yn ymgyrchu tros y mater, wedi galw hynny yn “gam grêt”.