Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “wrthod” cymryd camau i ddileu tlodi plant.
Heddiw (dydd Mercher, Chwefror 24), bydd Plaid Cymru yn cynnal dadl yn y Senedd ar brydau ysgol am ddim ar ôl cyflwyno cynnig yn galw ar y Llywodraeth i ddefnyddio arian heb ei ddyrannu o’i chyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 yn ei chyllideb derfynol i ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Maen nhw am i’r Llywodraeth gynnwys pob plentyn mewn teuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol, ac unrhyw blentyn mewn teulu heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus.
Dywed Plaid Cymru fod ymchwil y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant ac adolygiad Llywodraeth Cymru o dlodi plant wedi canfod fod hanner y plant yng Nghymru sy’n byw o dan y llinell dlodi yn cael eu heithrio o brydau ysgol am ddim o dan y drefn bresennol – sy’n golygu cyfanswm o dros 70,000 o blant.
Beirniadaeth
Dywed Helen Mary Jones, llefarydd economi Plaid Cymru, fod Llywodraeth Cymru “i bob pwrpas wedi rhoi pris ar ddileu tlodi plant” drwy gyfeirio at ddiffyg arian fel rheswm i beidio ag ymestyn y meini prawf er bod yr arian ar gael.
“Dylai unrhyw lywodraeth dosturiol fod yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd i’r ysgol yn llwglyd nac i’r gwely’n oer, ac eto nid yw dros 70,000 o blant sy’n byw islaw llinell dlodi’r Deyrnas Unedig yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd,” meddai.
“Drwy ddefnyddio cyfran o’r arian sydd heb ei ddyrannu yn eu cyllideb ddrafft ar gyfer eleni gallai’r Llywodraeth Lafur ehangu’r meini prawf cymhwysedd – gan sicrhau bod y 70,000 o blant hynny hefyd yn cael prydau ysgol am ddim ac yn cymryd cam sylweddol i ddileu tlodi plant yng Nghymru.
“Maen nhw’n gwrthod gwneud hynny.
“Nid diffyg arian yw hyn. Mae’n ymwneud â diffyg ewyllys gwleidyddol.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i bob pwrpas wedi rhoi pris ar ddileu tlodi plant.”
Llywodraeth Cymru’n amddiffyn ei record ar brydau ysgol am ddim
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fe wnaethom ddiwygio’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim er mwyn rheoli effaith rhaglen diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae ein data diweddaraf yn dangos bod mwy o blant yng Nghymru bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag o dan y system flaenorol.
“Nod ein polisi yw sicrhau bod y teuluoedd sydd â’r angen mwyaf am gymorth yn gallu cael prydau ysgol am ddim.
“Wrth ymateb i’r pwysau ariannol cynyddol ar deuluoedd eleni, rydym wedi darparu dros £60 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prydau ysgol am ddim, gyda £23m ychwanegol i warantu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol yn y flwyddyn ariannol nesaf hefyd.”