Michael Gove fydd yn gyfrifol am arwain adolygiad o’r posibilrwydd o ddefnyddio pasport brechu fel rhan o’r map ffordd ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud yn Lloegr.

Wrth gyhoeddi ei drywydd at lacio’r cyfyngiadau ddydd Llun (Chwefror 22), cadarnhaodd y prif weinidog Boris Johnson y bydd astudiaeth o’r defnydd o dystysgrifau brechu a phrofi yn un o bedwar adolygiad fel rhan o leddfu’r cyfyngiadau presennol.

Mae uwch swyddogion, gan gynnwys Nadhim Zahawi, Gweinidog Brechlynnau’r Llywodraeth, wedi diystyru droeon y syniad o gyflwyno pasport brechu yn y Deyrnas Unedig.

“Mae yna faterion dwys a chymhleth y mae angen i ni eu harchwilio, a materion moesegol ynglŷn â beth yw rôl y Llywodraeth i bobol gael y fath beth neu, yn wir, wrth wahardd pobol rhag gwneud y fath beth,” meddai Boris Johnson.

“Ni allwn wahaniaethu yn erbyn pobl na allan nhw gael y brechlyn am ba reswm bynnag. Efallai y bydd rhesymau meddygol pam na all pobol gael y brechlyn.

“Neu efallai y bydd rhai pobol wir yn gwrthod cael un.

“Rwy’n credu bod hynny’n anghywir, rwy’n credu y dylai pawb gael brechlyn, ond mae angen i ni ddatrys hyn i gyd.”

Yr adolygiad

Bydd adolygiad y Llywodraeth yn edrych ar y posibilrwydd y bydd ap coronafeirws y Gwasanaeth Iechyd yn cynnwys pasbort iechyd digidol, a fyddai’n cynnwys manylion brechiadau a chanlyniadau profion negyddol.

Yna, gellid defnyddio tystiolaeth o brawf coronafeirws negyddol diweddar neu dystiolaeth o fod wedi derbyn y brechlyn i fynychu digwyddiadau neu leoliadau.

Er bod cyflwyno’r rhaglen frechu yn parhau ledled gwledydd Prydain, dywed Boris Johnson ei fod am weld “adolygiad priodol” i’r mater.

“Bydd hynny’n cael ei arwain gan Michael Gove, a fydd yn cael y safbwyntiau gwyddonol, moesol, athronyddol, moesegol gorau arno ac a fydd yn penderfynu ar ffordd ymlaen,” meddai.

Mae’r pedwar adolygiad yn ymchwilio i faterion nad yw gweinidogion yn teimlo bod ganddyn nhw ddigon o ddata na gwybodaeth amdanyn nhw ar hyn o bryd.

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd canfyddiadau’r prawf pasport brechu ar gael cyn cyrraedd cam pedwar y cyfyngiadau symud ar Fehefin 21, y dyddiad cynharaf y mae gweinidogion yn gobeithio y bydd modd codi’r holl gyfyngiadau yn Lloegr.