Fe fydd John Worboys, gyrrwr tacsis Llundain a gafodd ei garcharu am oes yn 2019 am dreisio, yn apelio i’r Llys Apêl yn erbyn ei ddedfryd.

Cafodd y dyn 63 oed, sydd bellach yn defnyddio’r enw John Radford, ddedfryd o isafswm o chwe blynedd dan glo ar ôl cyfaddef iddo wenwyno diodydd pedair dynes â chyffuriau.

Roedd e eisoes dan glo pan gafwyd e’n euog, ac yntau wedi’i garcharu yn 2009 am 19 trosedd ryw yn erbyn 12 o fenywod rhwng 2006 a 2008.

Mae’r heddlu’n credu ei fod e wedi cyflawni troseddau yn erbyn o leiaf 100 o fenywod cyn iddyn nhw ei ddal.

Cafodd y penderfyniad i’w ryddhau o’r carchar ei wyrdroi gan yr Uchel Lys yn 2018 yn dilyn her gan ddwy ddynes.

Daeth gwrandawiad arall i’r casgliad yr un flwyddyn y dylai aros dan glo.

Aeth mwy o fenywod at yr heddlu wedi hynny, gan adrodd am ymosodiadau o 2000 ymlaen.

Cafodd ei gyhuddo o ragor o droseddau yn 2019, ac fe blediodd yn euog i ddau gyhuddiad o roi cyffuriau gyda’r bwriad o dreisio neu ymosod yn rhywiol, a dau gyhuddiad o roi cyffur gyda’r bwriad o gyflawni trosedd ryw.

Pe bai bwrdd o farnwyr yn derbyn ei apêl mewn gwrandawiad cychwynnol heddiw (dydd Mercher, Chwefror 24), fe allai lansio apêl lawn.