Mae elusennau’n galw am flaenoriaethu pobol sydd ag asthma a chlefydau’r ysgyfaint yng ngham nesa’r rhaglen frechu Covid-19.

Dywed Sefydliad Ysgyfaint Prydain ac Asthma UK fod dioddefwyr clefydau o’r fath yn wynebu mwy o risg pe baen nhw’n cael eu heintio â’r coronafeirws.

Mae’r bobol sydd â’r symptomau mwyaf difrifol eisoes wedi eu cynnwys yng ngrwpiau blaenoriaeth 4 a 6, ac felly maen wedi derbyn brechlyn.

Ond yn ôl yr elusennau, mae nifer fawr o gleifion asthma a chlefydau ysgyfaint eraill sy’n “synnu” na chawson nhw eu cynnwys yng nghategori 6.

Mae dros 300,000 o bobol yng Nghymru’n dioddef ag asthma.

“Be rydan ni’n poeni amdano ydy pobol sydd ddim yn gallu gweld eu Meddyg Teulu, neu fynd i’r ysbyty, pan y dylsen nhw wedi,” meddai Matthew Norman o Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru wrth raglen ‘Dros Frecwast’ ar Radio Cymru.

“Neu bobol sy’n dioddef efo peswch dros dymor hir a dim ’di gweld neb amdano fo a mynd yn waeth wrth fod nhw heb weld eu doctor.

“Rydan ni’n gobeithio gweld, wrth i’r rhaglen ‘ma gario ‘mlaen, lleihad yn y nifer o bobol sy’n cael Covid-19.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod pobol sy’n dioddef gyda symptomau difrifol o asthma ac yn defnyddio steroidau drwy’r geg, neu sydd wedi derbyn triniaeth mewn ysbyty, mewn mwy o berygl o gael eu heintio â’r feirws ac felly eu bod nhw wedi eu cynnwys yn y rhaglen frechu.