Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn £10m i gefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru.

Wrth ymweld ag ysgol gynradd Glan Morfa yng Nghaerdydd, cadarnhaodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y byddai cyllid cynllun ‘Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad’ yn cael ei ddyblu i gynnwys blynyddoedd ychwanegol yn 2020/21.

Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl prynu gliniaduron a chyfrifiaduron mewn ymateb i bandemig y coronafeirws, yn ôl y Gweinidog.

Bydd y cyllid o £10.3m – cynnydd o £5.1m yn 2019/20 – yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymestyn y cynllun i gefnogi’r dysgwyr ym mlynyddoedd 1, 5, 8, 9 ac 11, ar gyfradd o £125 y dysgwr.

Cyflwynwyd ‘Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad’ yn 2018, ac mae’n helpu teuluoedd i dalu costau gwisg ysgol a chitiau chwaraeon, yn ogystal â chyfarpar ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys clybiau chwaraeon a thripiau dysgu yn yr awyr agored.

Mae’r cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf i helpu gyda rhai o gostau’r diwrnod ysgol.

“Dw i’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd y Grant Datblygu Disgyblion gan ei fod yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein dysgwyr yn y dyfodol,” meddai Kirsty Williams.

“Fel dw i wedi’i amlinellu yn ‘Cenhadaeth Ein Cenedl’, dw i am weld ysgolion cryf a chynhwysol yng Nghymru, sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a lles; system sy’n cefnogi’r dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf.

“Rydyn ni’n gwybod bod cost y diwrnod ysgol yn fater pwysig i lawer o deuluoedd yng Nghymru.

“Dw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu ymestyn y polisi i gefnogi grwpiau blwyddyn eraill, a chaniatáu i deuluoedd brynu gliniaduron a chyfrifiaduron llechen a fydd yn help wrth ddysgu o bell yn y cyfnod digynsail hwn.”