Mae cwmni gwyliau yng Nghaernarfon wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau yn dilyn cyhoeddi cynlluniau Lloegr ddydd Llun i lacio’r cyfyngiadau.
Dywed Ann Jones, perchennog cwmni Teithiau Menai ei bod hi wedi derbyn dros ddwsin o ymholiadau am wyliau tramor ers hynny
Er ei bod yn cydnabod nad yw cyhoeddiad Lloegr yn berthnasol i Gymru, teimla bod y newyddion yn cynnig rhywfaint o obaith i bobl allu teithio dramor eleni.
Gyda bron i chwarter canrif o brofiad yn gweithio fel asiant teithiau, dywedodd wrth golwg360 am ei rhwystredigaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae hi wedi bod yn hunllef”
Dywedodd fod y busnes wedi cael ei effeithio’n ddrwg gan y dirwasgiad ond fod y sefyllfa wedi gwella yn fwy diweddar.
“Ar ôl hynny, roedd pethau wedi codi,” meddai, “roedd pethau’n mynd yn wych, roedd gen i gymaint o gwsmeriaid yn fy nghefnogi.
“Wedyn dyma Covid yn dŵad ac mae hi wedi bod yn hunllef ers hynny!”
Bu’n trafod yr heriau o nid yn unig beidio creu unrhyw incwm dros y cyfnod, ond hefyd ad-dalu cwsmeriaid, oedd wedi gorfod canslo eu gwyliau.
“Dwi wedi gweld cynnydd”
Fodd bynnag, teimla bod llygedyn o obaith ar y gorwel.
“Ers y cyhoeddiad dwi wedi gweld cynnydd, mae’n rhaid i mi ddweud,” meddai.
“Dydi hi ddim yn illegal i fwcio gwyliau ar hyn o bryd ond mae hi yn illegal i drafaelio – gei di ddim trafaelio.
“Ond does yna ddim byd yn dweud fedri di ddim bwcio dy wyliau i gael mynd hwyrach ymlaen yn y flwyddyn neu flwyddyn nesaf hyd yn oed.”
Eglurodd ei bod wedi derbyn ymholiadau gan bobl yn awyddus i deithio i leoliadau amrywiol ledled y byd a fod gwyliau llongau pleser hefyd yn boblogaidd.
Er hynny, rhybuddiodd y bydd prisiau gwyliau’n cynyddu yn gyflym, wrth i’r gofyn amdanynt ddwysau.
“Mae hynny’n mynd i fod yn wirion bost,” meddai, “er bod yna filoedd o wyliau ar gael.”
“Rydyn ni yma i edrych ar ôl ein cwsmeriaid”
Rhannodd neges ar ei thudalen Facebook , yn annog pobol leol i gefnogi cwmnïau teithio annibynnol, yn hytrach na bwcio gwyliau ar-lein.
“Os wyt ti’n bwcio ar-lein, ti’n meddwl dy fod ti’n cael bargen ac ella dy fod ti ond does yna ddim byd i ddweud ein bod ni methu rhoi bargen i bobl chwaith.
“Hefyd, pwy sydd i wybod beth sydd o’n blaenau?” meddai.
Dywedodd y byddai bwcio gwyliau drwy gwmni annibynnol yn darparu sicrwydd ariannol i gwsmeriaid a’u galluogi i fanteisio ar eu harbenigedd.
“Rydyn ni yma i edrych ar ôl ein cwsmeriaid,” meddai, “dim number ydyn nhw inni, maen nhw fatha teulu ac mae hynny mor bwysig i ni.
“Ella bod hi werth talu dipyn bach mwy am hynny hefyd,” meddal.
“Cyn hyn i gyd, roedd y drws bob tro ar agor a phobol yn galw i mewn – hyd yn oed os nad oedden nhw’n bwcio gwyliau . . i eistedd a chael panad a chat hefo ni!”
“Mae yna ormod o ffeit ynddo fi”
“Mae hi wedi bod yn anodd ofnadwy ac mae hi dal yn anodd – dydw i ddim allan o’r cwmwl du yma eto – dim mwy na dim un busnes arall lleol,” meddai.
“Ond dwi dal yma, dal i gwffio ac yn edrych ar ôl fy nghwsmeriaid . . . dwi’n lwcus bod yna gymaint yn fy nghefnogi i.
“Hebddyn nhw yn rhoi’r wmff i mi gario ymlaen, llawer o ddiwrnodau fysa hi wedi bod yn hawdd dweud digon ydi digon.
“Ond mae yna ormod o ffeit ynddo fi i wneud hynny a gormod o feddwl o fy nghwsmeriaid.”
Mae Ann ei hun eisoes wedi bwcio gwyliau i Giprys.
“Mae’n rhaid i mi gael rhywbeth i edrych ymlaen ato!” meddai.
“Os dydio ddim yn digwydd, fedrai newid o – fela dwi’n sbïo arni.”
“Os ydw i’n gwneud hynny i fy nghwsmeriaid, be’ sydd yn wahanol i fi wneud o fy hun!”