Am y tro cyntaf ers dyfodiad y coronafeirws, mae cwsmeriaid cwmni teithio annibynnol yn y gogledd yn dechrau bwcio gwyliau o’r newydd.

Ann Jones yw perchennog Teithiau Menai yng Nghaernarfon ac mae ganddi bron i chwarter canrif o brofiad yn anfon pobol leol ar wyliau ymhell ac agos.

“Dw i’n gobeithio fod yna olau ar ddiwedd y twnnel tywyll yma,” meddai wrth egluro ei bod newydd dderbyn pum ymholiad ar gyfer prynu gwyliau – yn hytrach nag eu canslo – ddechrau’r wythnos.