Mae angen i’r Ceidwadwyr Cymreig “ddathlu balchder Prydain” er mwyn distewi “fflamau peryglus” cenedlaetholwyr Cymru.
Dyna mae Andrew RT Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi ei ddweud mewn blog diweddar i wefan ConservativeHome.
Yn y darn mae’n dweud bod datganoli bellach wedi troi’n “broses diddiwedd o ddadleuon am ragor o bwerau” a bod yna agwedd bellach (ymhlith academia a’r wasg) bod annibyniaeth yn “anochel”.
Er mwyn delio â’r gefnogaeth gynyddol tuag at annibyniaeth, mae’n rhaid i Geidwadwyr Cymru fod yn agored am eu hoffter o’r undeb ac o Brydeindod, yn ôl yr AoS.
“Rhaid i ni berchnogi’r ddadl emosiynol a gwladgarol – gan gofio a dysgu’r gwersi gwerthfawr o’r ymgyrch Brexit yr oedd llawer ohonom ynghlwm â hi,” meddai.
“Rhaid i ni roi stop ar ‘Project Fear’ a dathlu balchder Prydain … Dw i’n Gymro balch, dw i’n Brit balch, a dw i’n ymddiheuro i neb am hynny. A dyma faes y gad i ni.
“Beth am lywio rheolau’r gêm, a beth am gryfhau ein hymdrechion i gyfleu’r ddadl bositif a gwladgarol tros Gymru, Prydain, a’r Undeb.”
‘Ddim yn gwrthwynebu datganoli’
Dyma’r eildro i Andrew RT Davies gael ei benodi’n arweinydd. Mi esgynodd i’r rôl wedi i Paul Davies ildio’r awenau – a hynny yn sgil sgandal yfed yn y Senedd.
Mae rhai yn dyfalu y bydd y blaid yn fwy ymosodol tuag at ddatganoli gydag ef wrth y llyw ond bu iddo wfftio hynny mewn ymddangosiad diweddar ar bodlediad The New Normal.
“Dw i’n hoffi meddwl bod fy record yn dangos nad ydw i yn gwrthwynebu datganoli,” meddai. “Gwleidyddion yn malu awyr, ac yn methu a delifro i bobol. Dyna dw i’n ei wrthwynebu.”
Mi rannodd safbwynt ddigon tebyg â Golwg dair wythnos yn ôl.