Bydd adfywio canol trefi wrth galon cynllun i adfer yr economi ar ôl Covid-19, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Wrth i Gymru barhau i lywio heriau niferus coronafeirws, mae’r Llywodraeth wedi nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn “fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o’r blaen.”
Byddan nhw hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi cwmnïau i arloesi ac arallgyfeirio.
‘Blwyddyn hynod o anodd’
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn hynod o anodd i bawb ac er bod ein gwaith hanfodol i frwydro yn erbyn y feirws yn mynd yn ei flaen, mae’n bwysig ystyried beth sy’n dod nesaf,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.
“Mae gennym gyfle i edrych i’r dyfodol ac ail-greu’r economi gyda’r nod sylfaenol o sicrhau lles hirdymor gydag urddas a thegwch i bobl.
“Byddwn yn gwneud hyn drwy gryfhau’r economi bob dydd, cyflawni ein Hymrwymiad Covid i gefnogi pobl i wella sgiliau a chael gwaith, a thrwy helpu busnesau i ymateb i heriau a chyfleoedd heddiw ac yfory.
“Byddwn hefyd yn gwneud y mwyaf o fuddsoddiad cynaliadwy yng Nghymu ac yn sicrhau ein bod yn ceisio gwneud gwaith teg a gwerth cymdeithasol gyda busnesau a sefydliadau sy’n derbyn arian cyhoeddus.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £270m ychwanegol ar gyfer Banc Datblygu Cymru, gan ddod â’r cyfanswm fydd wedi’i fuddsoddi drwy’r gronfa hon i £500m erbyn 2030.
Denu buddsoddiadau hir dymor
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau mawr yn y dyfodol drwy ‘brosiectau magned’, a fydd yn denu buddsoddiadau hirdymor i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau ac arloesi a datblygu.
“Y nod o sicrhau economi gystadleuol a chynaliadwy sy’n codi safonau byw, yn hyrwyddo cyflog uwch, ac yn darparu’r refeniw sydd ei angen arnom i gefnogi blaenoriaethau cyhoeddus yw’r un cywir i Gymru,” meddai Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru, llais busnesau yng Nghymru.
Ond rhybuddia na all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar ei phen ei hun.
“O hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i wella iechyd meddwl, hyrwyddo ymddygiad gwyrdd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf; rhaid i fusnesau barhau i fod yn bartneriaid gwirioneddol i’r llywodraeth,” meddai wedyn.
“Ar eu gorau, mae busnesau yn beiriannau cynnydd fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth oresgyn y pandemig ac adeiladu economi well yng Nghymru.
“Mae ffynonellau ychwanegol o gyllid hygyrch i’w croesawu ac maent yn fuddsoddiad pwysig yng nghymuned fusnes Cymru, un a fydd yn cael ei ad-dalu drwy swyddi, twf ac, yn y pen draw, yn darparu Cymru fwy ffyniannus.”