Mae cwest wedi clywed y bu farw ceisiwr lloches oedd yn byw yng Nghaerdydd ar y diwrnod y daeth ei frawd mewn cwch i Loegr.

Cafwyd hyd i gorff Omar Ezildin Ali, oedd wedi bod yn byw yng ngwledydd Prydain ers 2016, yn Dover.

Mae lle i gredu ei fod e wedi teithio i Gaint o’i gartref yng Nghaerdydd, gan fentro i’r môr yn y gobaith o gael ei achub, ond fe aeth i drafferthion a boddi.

Mae cwest i’w farwolaeth yn cael ei gynnal yng Nghaint yr wythnos hon.

Cefndir

Cafodd Omar Ezildin Ali, oedd yn 24 oed, ei eni yn Swdan ond fe wnaeth e ffoi ar ôl cymryd rhan mewn protest yn erbyn y llywodraeth.

Daeth e i wledydd Prydain fis Mehefin 2016 a cheisio lloches ond cafodd dau gais eu gwrthod er ei fod yn obeithiol y byddai’r broses yn llwyddo yn y pen draw.

Fe fu’n dioddef o salwch meddwl a diffyg cwsg, ac roedd yn defnyddio canabis.

Fe ddaeth i gysylltiad â’r heddlu yn dilyn sawl digwyddiad yn ymwneud â chymdogion.

Ar Awst 20 y llynedd, cafodd dyn ei weld yn mynd i drafferthion yn y môr ond doedd timau achub ddim wedi gallu dod o hyd iddo fe.

Cafwyd hyd i’w gorff y noson honno gan aelod o’r cyhoedd.

Dywedodd y crwner fod y rheswm pam iddo fentro i’r môr yn allweddol i’r cwest ac nad oes digon o dystiolaeth ei fod e wedi bwriadu cymryd ei fywyd ei hun.

Ond mae’n dweud nad oes digon o dystiolaeth ychwaith ei fod e wedi bwriadu cael ei gasglu mewn cwch i fynd oddi yno.