Mae cerddor, chwaraewr hyrli (hurling) a chyflwynydd radio ymhlith llysgenhadon gŵyl sy’n dathlu’r iaith Wyddeleg.
Mae grwpiau cymunedol, ysgolion a grwpiau diwylliannol a chwaraeon o Iwerddon a thu hwnt wedi dod ynghyd i drefnu cyfres o ddigwyddiadau rhwng Mawrth 1-17.
Bwriad yr holl weithgareddau fydd dathlu’r iaith a’i siaradwyr, ac mae’r trefnwyr yn annog pobol o bob safon i gymryd rhan.
Cafodd y manylion eu cyhoeddi’n fyw ar RTÉ 2FM fel rhan yn ystod y sioe ddwyieithog StaidAir sy’n helpu disgyblion sy’n gadael addysg i barhau i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
‘Anrhydedd fawr’
“Dw i wrth fy modd o gael fy mhenodi’n llysgennad ar gyfer Seachtain na Gaeilge le Energia eleni a dw i wrth fy modd yn arbennig o gael rhannu fy nyletswyddau fel llysgennad gyda Declan ac Imelda, dau unigolyn sy’n sefyll allan yn eu meysydd,” meddai Bláthnaid Treacy, llysgennad Seachtain na Gaeilge le Energia.
“Mae’n anrhydedd fawr cael y llwyfan i hyrwyddo’r iaith Wyddeleg ac roedd yn foment o falchder mawr i fi pan ges i gyhoeddi’r llysgenhadon eleni ar fy sioe RTÉ 2FM, StaidAir.
“Dw i wir yn edrych ymlaen at yr ŵyl eleni ac yn gobeithio gweld mwy o bobol yn gwneud defnydd o’u cúpla focal (ambell air)!”
‘Digwyddiad i bawb’
Yn ôl Conchubhair Mac Lochlainn, cadeirydd Seachtain na Gaeilge, mae’r ŵyl yn cynnig “digwyddiad i bawb”.
“Bydd y digwyddiadau eleni’n cael eu cynnal ar-lein, felly mae mwy o gyfleoedd nag erioed i bobol gymryd rhan yn yr ŵyl, dim ots lle maen nhw,” meddai.
“Byddwn i’n annog unrhyw un, waeth bynnag beth yw lefel eu Gwyddeleg, i gymryd rhan mewn digwyddiad eleni.
“O bobol sy’n dechrau ar eu taith iaith, y sawl sy’n gloywi eu cúpla focal (ambell air) a phobol sy’n siaradwyr rhugl ond nad ydyn nhw’n cael y cyfle i ddefnyddio’u Gaeilge mor aml ag y bydden nhw’n dymuno, mae digwyddiad yno i bawb.”