Roedd gostyngiad bach yn nifer y bobol sy’n ddi-waith yng Nghymru yn ystod y tri mis hyd at fis Rhagfyr y llynedd.
Ond fyddwn ni ddim yn gwybod gwir effaith y pandemig ar ddiweithdra nes y daw cynllun gwarchod swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ben ddiwedd mis Ebrill.
Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 68,000 o bobol yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr – 0.2% yn llai na’r tri mis hyd at fis Tachwedd y llynedd.
Golyga hyn mai 4.4% yw’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach, ond mae’n parhau i fod 1.5 pwynt canran yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfradd ddiweithdra’r Deyrnas Unedig yn 5.1%, i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Dyma’r cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig ers 2009.
#Diweithdra yng Nghymru yn 4.4% ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2020, i lawr 0.2 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma'r ail gynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra ers canol 2011. https://t.co/oLDh1qF10G pic.twitter.com/EYkZfEUpcz
— Ystadegau Cymru (@YstadegauCymru) February 23, 2021
Ffyrlo
Oherwydd cynllun gwarchod swyddi’r Llywodraeth (ffyrlo), gallai’r gyfradd ddiweithdra fod llawer yn uwch.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae 155,500 o bobol yng Nghymru ar ffyrlo.
Mae 3,127,100 yn ddibynnol ar y cynllun yn Lloegr, 282,800 yn yr Alban a 94,800 yng Ngogledd Iwerddon.
Golyga hyn na fyddwn yn gwybod gwir effaith y pandemig ar ddiweithdra nes i’r cynllun hwnnw ddod i ben ddiwedd mis Ebrill.
Mae’r cynllun ffyrlo, sy’n talu 80% o gyflogau gweithwyr nad ydyn nhw’n gallu gweithio oherwydd y pandemig, yn ei le ers mis Mawrth y llynedd.
Mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn sawl gwaith, ac mae pwysau ar y Canghellor Rishi Sunak i’w ymestyn eto.