Mae Gareth Ceidiog Hughes, golygydd newydd y wefan Nation.Cymru, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn edrych ymlaen at “gyfrannu at y sgwrs genedlaethol” yn ei rôl newydd.

Cafodd Nation.Cymru ei lansio yn 2017 gan y newyddiadurwr, darlithydd a nofelydd, Ifan Morgan Jones, a fydd yn “dal i gyfrannu llawer iawn i’r wefan”.

Dechreuodd Gareth Ceidiog Hughes drwy ysgrifennu darnau barn ar gyfer Nation.Cymru, ac mae’n dweud ei fod wedi cael “budd mawr allan o wneud hynny”.

“Wedyn bob hyn a hyn os faswn i’n gweld stori roeddwn i’n meddwl fasa o ddiddordeb i Ifan, byddwn i’n pasio nhw ymlaen,” meddai.

“Fe wnes i ddatblygu perthynas dda efo Ifan a Mark Mansfield [Prif Swyddog Gweithredol Nation.Cymru] ac mi ddaru ein perthynas ddatblygu mewn ffordd organig.

“Cysylltodd Ifan â mi yn dweud ei fod yn edrych i ddatblygu’r wefan a gofyn a oeddwn i isio bod yn rhan o hynny… doedd o ddim yn benderfyniad anodd.”

“Cyfrannu at y sgwrs genedlaethol”

“Beth rydw i eisiau gweld Nation.Cymru yn ei wneud ydi cyfrannu at y sgwrs genedlaethol, a’i arwain,” meddai wedyn wrth ehangu ar ei weledigaeth.

“Rydw i eisiau ehangu o ran ein cynulleidfa ac ehangu o ran tanysgrifwyr, oherwydd y mwya’ rydan ni’n cael, y mwya’ gallwn ni fuddsoddi mewn newyddiaduriaeth a drwy hynny gallwn roi llais i fwy o bobol.”

Er ei fod yn gobeithio “ehangu”, mae Gareth Ceidiog Hughes yn llawn clod i’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud gyda’r wefan.

“I fod yn onest, dw i’n meddwl fod Ifan wedi gwneud job wefreiddiol efo’r wefan, mae’r wefan wedi datblygu a thyfu o dan ei arweiniad a dw i’n gobeithio cario ‘mlaen efo hynny.

“Mae gen i weledigaeth debyg [i Ifan Morgan Jones] ac rydan ni eisiau gweld y wefan yn datblygu ymhellach.”

“Codi stori ella bod pobol eraill methu”

Ond beth mae Gareth Ceidiog Hughes yn ystyried ydi rôl Nation.Cymru o fewn newyddiaduriaeth yng Nghymru?

“Codi stori ella bod pobol eraill methu,” meddai.

“Er enghraifft, fe wnaethon ni dorri nifer o straeon am archfarchnad Iceland, â’r sylwadau sarhaus yr oedd Keith Hann [cyn-Gyfarwyddwr Materion Corfforaethol yr archfarchnad] wedi ei gwneud am Gymru a’r Gymraeg.

“Ni hefyd wnaeth dorri’r stori fod Iceland wedi ei adael o fynd yn dilyn y sylwadau sarhaus.

“Dw i’n gobeithio arwain y newyddion ar adegau a newid y sgwrs, fe wnaethon ni gyhoeddi darn barn gan Andrew Green ar Lyfrgell genedlaethol Cymru.

“Mi ddaru o gychwyn sgwrs am y gyllideb a ni roddodd y platfform iddo fo allu gwneud hynny.

“Aethom ymlaen i ysgrifennu nifer o straeon ar y mater, gan roi cyfle i bobol glywed lleisiau ella y basa nhw ddim tasa Nation.Cymru ddim yn bodoli.”

“Adeg gyffrous yng Nghymru”

Nawr ei fod wedi cael ei benodi’n olygydd newydd Nation.Cymru, mae Gareth Ceidiog Hughes yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen at fwrw ymlaen”.

“Mae hi’n adeg gyffrous yng Nghymru, a dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r sgwrs, boed hynny yn trafod annibyniaeth neu bynciau eraill,” meddai.

“Mae yna etholiad yn dod i fyny, a dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu at y sgwrs honno hefyd.”