Mae Swyddfa’r Goron wedi mynegi pryder fod tystiolaeth ysgrifenedig Alex Salmond wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth yr Alban.
Cafodd tystiolaeth cyn-brif weinidog yr Alban i ymchwiliad Holyrood i’r ffordd y cafodd honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol eu trin ei chyhoeddi neithiwr (nos Lun, Chwefror 22).
Yn ei dystiolaeth, mae’n cyhuddo’i olynydd Nicola Sturgeon o gamarwain y Senedd ac o dorri’r cod gweinidogol.
Mae hefyd yn dweud nad yw Swyddfa’r Goron yn “addas at ei phwrpas” o dan y drefn bresennol.
Mae adroddiadau bod Swyddfa’r Goron wedi gofyn i gorff corfforaethol Holyrood olygu’r dystiolaeth a’i chyhoeddi eto ar wefan y Senedd.
Mae Swyddfa’r Goron wedi gwrthod gwneud sylw am gynnwys y llythyr, ond maen nhw’n dweud y bydd camau’n cael eu cymryd “pe bai hynny’n briodol”.
‘Cynllwyn ac ymgyrch’ yn erbyn Alex Salmond
Yn ôl Alex Salmond, mae’r SNP, Llywodraeth yr Alban a sawl unigolyn wedi trefnu “cynllwyn ac ymgyrch” i’w bardduo.
Mae disgwyl iddo fynd gerbron pwyllgor Senedd yr Alban i drafod ei bryderon.
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig, mae’n enwi sawl unigolyn mae’n eu hamau o fod yn rhan o’r cynllwyn honedig, gan gynnwys Liz Lloyd, pennaeth staff Nicola Sturgeon, ei chymar a phrif weithredwr yr SNP Peter Murrell, ei swyddog cydymffurfiaeth Ian McCann a’i phrif swyddog gweithredol Sue Riddick.
Mae’n dweud mai’r “casgliad nad oes modd dianc rhagddo yw ymgais maleisus a bwriadol i niweidio fy enw da a’m symud o fywyd cyhoeddus yn yr Alban”.
Mae’n dweud y byddai’r ymgais wedi llwyddo “oni bai am warchodaeth y system llysoedd a rheithgor”.
Ond mae’n dweud mai’r “mater mwyaf difrifol ohonyn nhw i gyd” yw fod y ffiniau rhwng Llywodraeth yr Alban, yr SNP ac erlynwyr wedi cael eu bwrw i lawr.
Ymateb Nicola Sturgeon
Yn ôl Nicola Sturgeon, fyddai Alex Salmond ddim yn gallu profi’r honiadau.
“Yr hyn nad ydyn ni wedi’i weld yw’r un gronnyn o dystiolaeth i gefnogi’r honiadau gwyllt yma,” meddai.
“Nawr, gerbron y Senedd, mae’r fwrn ar Alex Salmond i’w profi.
“Mae’n bryd i ensyniadau a honiadau gael eu disodli gan dystiolaeth wirioneddol.”
Mae Liz Lloyd hefyd yn dweud bod yr honiadau’n “ffals”.