Mae Plaid Cymru yn galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ddwysáu eu hymdrechion i bontio’r bwlch digidol rhwng ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru.

Yn ôl Liz Saville Roberts, aelod seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionydd, a Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Senedd Cymru yr etholaeth, mae’r anghysondebau hyn yn rhoi cymunedau, busnesau ac unigolion o dan anfantais wrth i’n harferion dyddiol symud ar-lein yn sgil y pandemig.

Daw eu sylwadau wrth ymateb i adroddiad gan Ofcom, sydd yn dweud bod Gwynedd ymhlith yr ardaloedd sydd â’r cysylltiad band eang cyflym iawn gwaethaf yng ngwledydd Prydain.

Er bod Liz Saville Roberts yn cefnogi ymdrechion llwyddiannus i wella cysylltedd band eang mewn sawl cymuned ym Meirionydd, dywed fod mwy o waith i’w wneud i sicrhau bod pob cymuned a chartref yn derbyn gwasanaeth digonol.

“Rhaniad anghymesurol”

Mae’r adroddiad gan Ofcom yn dweud bod dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymder band eang sy’n llai na 10Mb/s, sef y trothwy cymhwysedd a gafodd ei osod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer uwchraddio’r rhwydwaith.

Mae ffigurau hefyd yn dangos bod cyflymderau lawrlwytho ar gyfartaledd yn yr etholaeth (41.2%) yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru (58.3%) a’r Deyrnas Unedig (72.9%).

Mae cymunedau Abersoch, Aberdaron, Bala, Mawddwy, Cricieth a Llanaelhaearn ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflymderau band eang.

“Mae’r ffigyrau hyn unwaith eto yn tanlinellu’r rhaniad anghymesurol rhwng yr ardaloedd hynny sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn, a’r cymunedau gwledig hynny, fel y rhai yr wyf yn eu cynrychioli, sy’n methu â chyflawni cyflymder lawr lwytho sylfaenol y Llywodraeth o 10Mb/s,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae Dwyfor Meirionnydd ymhlith yr ardaloedd sy’n cael ei wasanaethu gwaethaf ar gyfer mynediad at fand eang cyflym iawn – rhywbeth sydd bellach wedi dod yn un o wasanaethau hanfodol bywyd, ac mae gan ei ddibynadwyedd ganlyniadau pellgyrhaeddol i’r rheini sy’n gweithio ac yn astudio adref.

“Mae’r sefyllfa bresennol nid yn unig yn anghyfleustra i fusnesau ond mae hefyd yn gwadu cyfle i weithwyr fanteisio i’r eithaf ar hyblygrwydd yn y farchnad swyddi, wrth i weithio o adref ddod yn fwy cyffredin.

“Dyma feirniadaeth ddamniol arall o Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig sydd wedi blaenoriaethu ardaloedd hawdd eu cyrraedd yn gyntaf – ardaloedd a oedd eisoes â band eang da – er anfantais i gefn gwlad Cymru.

“Os ydym am gryfhau a gwella ein heconomi wledig ar ôl Covid, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan bawb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy, fel yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein gwasanaethau trydan a dŵr.”

“Hanfodion bywyd”

“Nid yw band eang da – mwy na 30mb/s – yn foethusrwydd mwyach, mae’n un o hanfodion bywyd,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mae pobol yn gweithio, addysgu, gwneud busnes, siopau a llawer mwy ar-lein.

“Ymddengys bod Openreach yn penderfynu a ddylai cymunedau gael mynediad at fand eang cyflym yn seiliedig ar fforddiadwyedd ai peidio, ond nid oedd hyn erioed yn ystyriaeth wrth sicrhau bod dŵr a thrydan yn cael eu cyflenwi, a dylai fod yr un peth â band eang hefyd.

‘Ni ddylid gadael unrhyw gymuned na chartref ar ôl, a gwaith y Llywodraeth yw sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb.”

“Os na fydd Openreach yn gwneud y gwaith, yna dylai’r llywodraeth sicrhau bod yr arian a’r arbenigedd yn cael eu darparu i’n cymunedau i’w galluogi i ddilyn modelau fel model Guifi yng Nghatalunya, sy’n wasanaeth a redir gan y gymuned gyda chefnogaeth y llywodraeth ddatganoledig.”

Sally Holland yn eistedd ar y llawr gyda grwp o blant

Dysgu ar-lein: y Comisiynydd Plant yn codi pryderon

Iolo Jones

“Mae rhaniad digidol yn dal i fodoli yng Nghymru i ddysgwyr,” meddai Sally Holland

 

Openreach yn amlinellu cynlluniau ar gyfer band llydan mewn llefydd anghysbell

Bydd y cynllun yn cynnwys 45 o drefi a phentrefi sy’n anodd eu cyrraedd fel arfer