Dylai carchardai dreialu rhoi canabis am ddim i garcharorion er mwyn eu helpu i oresgyn eu problemau cyffuriau ac i leihau trais yn y carchar, yn ôl Arfon Jones.

Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru y gallai’r syniad hefyd atal marwolaethau gorddos cyffuriau mewn carchardai.

Wrth siarad â phapur newydd y Guardian, dywed Arfon Jones pe bai awdurdodau cyfiawnder o ddifrif ynglŷn â lleihau niwed a thrais mewn carchardai y “dylen nhw fynd i’r afael âg achosion” fel spice y canabinoid synthetig rhad.

Mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn gyffredin mewn carchardai ac mae llawer o garcharorion yn derbyn sylweddau yn lle heroin fel methadôn a buprenorffin er mwyn ceisio rheoli eu dibyniaeth yn gyfreithlon.

Mae mwy na 300 o swyddogion carchardai a staff allanol wedi cael eu diswyddo neu eu collfarnu am ddod ag eitemau gwaharddedig – sy’n gallu cynnwys cyffuriau, tybaco a ffonau symudol – i garchar yng Nghymru neu Loegr dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y Guardian fis diwethaf.

Yn y Deyrnas Unedig mae defnyddio canabis ar gyfer dibenion hamdden yn erbyn y gyfraith ond mae wedi’i gyfreithloni i’w ddefnyddio at ddibenion meddygol.

“Gwneud carchardai yn fwy diogel”

“Mae opioidau dipyn mwy peryglus na chanabis,” meddai Arfon Jones.

“Os yw carcharorion ar opioidau, pam na ellir rhoi canabis ar bresgripsiwn iddyn nhw?”

“Gadewch i ni gyflenwi canabis mewn ffordd sy’n cael ei rheoli a gweld a yw troseddau’n lleihau.

“Y nod yn y pen draw yw gwneud carchardai yn fwy diogel.

“Os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â lleihau trais mewn carchardai, dylen nhw fynd i’r afael â’r achosion a’r sylweddau seicoweithredol hynny.

“Ar ben hynny, mae yna ystod eang o faterion y gellid defnyddio canabis i leihau eu risg.”

“Nonsens gwneud troseddwyr allan o bobol sy’n cymryd canabis”

Mae Arfon Jones hefyd yn galw am reoleiddio canabis er mwyn dileu troseddau cyfundrefnol a chaniatáu i bobol dyfu ychydig ohono at eu defnydd personol eu hunain.

Dywed fod ei wahardd yn wrthgynhyrchiol ac y dylid ei reoli’n gyfreithiol fel alcohol a thybaco.

Mae’n dadlau bod alcohol a thybaco yn achosi mwy o niwed i unigolion a chymdeithas yn gyffredinol.

“Mae’n nonsens gwneud troseddwyr allan o bobol sy’n cymryd canabis at ddefnydd hamdden sydd ddim yn achosi unrhyw niwed i unrhyw un arall.

“Y ffordd orau o leihau rôl troseddu gyfundrefnol wrth gyflenwi cyffuriau yw ei roi mewn dwylo masnachol a’i brisio’n briodol fel nad oes angen i bobl fynd i’r farchnad anghyfreithlon.

“Mae sefydliadau masnachol wedi cymryd drosodd y farchnad canabis meddyginiaethol ac yn gwerthu presgripsiynau am gost enfawr er ei fod yn rhad i’w dyfu. Yn fy marn i, mae hynny’n gyfystyr â chymryd mantais ddifrifol.

“Rwy’n credu y dylid caniatáu i bobl dyfu nifer cyfyngedig o blanhigion canabis at eu defnydd eu hunain.”