Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd, ‘Y Daith Drên Odidog’, sy’n rhoi’r cyfle i blant ysgolion cynradd ddewis enwau hyd at 148 o drenau.

Ymhlith y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth mae Grace Webb, cyflwynydd CBeebies, a Trystan Ellis-Morris, cyflwynydd S4C.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog plant i feddwl am enwau sy’n seiliedig ar leoliad go iawn, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol sy’n gysylltiedig â llefydd yng Nghymru a’r Gororau.

Rhaid i’r cynigion gynnwys rhywbeth creadigol i esbonio pam eu bod nhw wedi dewis yr enw hwnnw, megis cerdd, stori neu lun.

Mae modd cyflwyno ceisiadau’n unigol, neu fel rhan o ddosbarth neu ysgol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at lansio’r gystadleuaeth wych hon sy’n rhoi cyfle i blant fod yn rhan o hanes rheilffyrdd,” meddai Megan Roseblade, arweinydd prosiect Trafnidiaeth Cymru sy’n gyn-athrawes.

“Ond mae’n fwy na dim ond cystadleuaeth enwi trenau.

“Rydyn ni wedi cynhyrchu pecyn dysgu rhyngweithiol sy’n cynnig ffordd hwyliog o ddysgu am gynaliadwyedd, hanes y rheilffyrdd, sut mae trenau’n cael eu hadeiladu, a’r llefydd anhygoel y gall pobol ymweld â nhw ledled Cymru ar drên.

“Mae yna hefyd gêm ar-lein wych o’r enw ‘Route Wrangler’ i gyd-fynd â’r pecyn dysgu.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y plant yn eu caru ac y bydd rhieni ac athrawon yn eu hystyried yn adnodd defnyddiol iawn.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis o bob rhanbarth o rwydwaith Cymru a’r Gororau, gyda’r gystadleuaeth yn dod i ben ar Ebrill 9, a’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr haf.

Bydd yr enwau llwyddiannus yn ymddangos ar drenau newydd wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno o 2022.

“Ffordd hwyliog i bobl ifanc fod yn greadigol a dysgu”

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd pob enillydd yn derbyn ‘Pecyn Creadigol’ y bydd modd ei ddefnyddio yn yr ysgol neu gartref.

Ar ben hynny, bydd enillwyr ym mhob rhanbarth, ac ar gyfer y stori, y gerdd neu’r llun gorau, yn cael model o drên i’w hysgol, wedi’i ddylunio’n arbennig gan Hornby, y cwmni modelau rheilffordd.

Bydd ysgolion yn cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am y trên maen nhw wedi’i fabwysiadu.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd hwyliog i bobl ifanc fod yn greadigol a dysgu am gymaint o bethau, fel sut mae trenau’n cael eu gwneud, yr amgylchedd a hanes eu hardal leol,” meddai David Burrows, pennaeth Ysgol Gynradd Blaenbaglan ym Mhort Talbot.

“Mae’r adnodd yn hwyl ac yn addysgol i ddysgwyr ei ddefnyddio gartref neu yn yr ystafell ddosbarth pan fyddwn ni’n ôl gyda’n gilydd.

“Byddwn i’n annog pawb i roi cynnig arni a chymryd rhan.

“Byddwn ni’n sicr yn cymryd rhan – pob lwc!”