Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio merch dan 16 oed yng Ngheredigion.

Yn dilyn y digwyddiad honedig dros y penwythnos, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod y dyn bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

“Cafodd dyn 28 oed ei arestio ar amheuaeth o dreisio merch dan 16 oed yn ardal Ceredigion ddydd Sadwrn, 20 Chwefror,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys

“Ers hynny mae’r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

“Mae ymholiadau’n parhau.”