Mae disgwyl i reol ‘arhoswch gartref’ yr Alban gael ei dileu o Ebrill 5 wrth i’r wlad baratoi i ddod allan o gyfyngiadau’r coronafeirws.

Dywedodd Nicol Sturgeon, prif weinidog yr Alban, y gallai’r wlad ddychwelyd i’w lefelau blaenorol o gyfyngiadau erbyn Ebrill 26, gyda phob ardal yn dychwelyd o Lefel 4 i Lefel 3.

Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth yr Alban i ailagor yr economi, gan gynnwys siopau nad ydyn nhw’n hanfodol, lletygarwch a gwasanaethau hamdden a thrin gwallt.

Bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio bob tair wythnos yn ddibynnol ar lefelau’r feirws yn y cyfamser, meddai Nicola Sturgeon.

Dychwelyd rhai disgyblion i’r ysgol yr wythnos hon oedd dechrau’r cam cyntaf, ond fydd rhagor ddim yn cael dychwelyd tan o leiaf Fawrth 15, pan fydd pedwar o bobol yn cael cymysgu yn yr awyr agored yn hytrach na’r ddwy aelwyd bresennol.

Bydd modd cyd-addoli a chymysgu gyda mwy o bobol yn yr awyr agored a llacio cyfyngiadau ar siopa o Ebrill 5, pan fo disgwyl hefyd i’r rheol ‘arhoswch gartref’ gael ei dileu gyda phob disgybl yn cael dychwelyd i’r ysgol.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon gyhoeddi rhagor o fanylion am y cam nesaf ganol mis nesaf, gan rybuddio nad yw hi am ddarogan dyddiadau ar hyn o bryd.

Ond mae’n dweud y bydd y cyfyngiadau teithio yn eu lle “am beth amser eto”.