Mae Alun Davies, yr Aelod o’r Senedd yn ardal Blaenau Gwent, wedi ailymuno â’r grŵp Llafur ar ôl iddo fod yn yfed yn y Senedd ddyddiau ar ôl i waharddiad ar alcohol o safleoedd trwyddedig ddod i rym ledled Cymru.

Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth Paul Davies ymddiswyddo o fod yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ac fe wnaeth Darren Millar roi’r gorau i’w swydd yn brif chwip ei blaid.

Daeth ymchwiliad Comisiwn y Senedd i’r casgliad ar Ionawr 22 fod pum unigolyn – pedwar Aelod a phennaeth staff y grŵp Ceidwadol – wedi bod yn yfed alcohol ar ystâd y Senedd ar Ragfyr 8.

Paul Davies, Alun Davies, Darren Millar a Nick Ramsay

Er ei fod wedi gwadu bod ynghlwm â’r digwyddiad, mae lle i gredu mai Nick Ramsay, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yw’r pedwerydd Aelod o’r Senedd oedd yn bresennol yn y digwyddiad.

‘Rhan o’m gwaith’

Yn dilyn y digwyddiad, fe ymddiheurodd Alun Davies, ond gwadodd iddo dorri rheolau Covid-19.

“Mae’n ddrwg iawn gen i os yw fy ngweithredoedd wedi rhoi’r argraff nad ydw i wedi ymroi mewn unrhyw ffordd i gynnal y rheoliadau yr ydw i wedi’u cefnogi trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Er mwyn cyd-destun, pwrpas y cyfarfod hwn o’m persbectif i oedd ceisio perswadio’r Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi fy nghynnig am “Fil Calonnau Cymru” y gwnaeth y Senedd ei gymeradwyo ar Hydref 21 ac i wneud ymrwymiad i weithredu ar y ddeddfwriaeth hon i achub bywydau yn eu maniffesto ar gyfer etholiad Mai.

“Mae hyn yn rhan o’m gwaith ar draws y pleidiau gwleidyddol ar y mater hwn.

“Mae Comisiwn y Senedd eisoes wedi cadarnhau i mi na wnes i dorri’r rheoliadau coronafeirws ar gael bwyd nac alcohol a oedd yn weithredol ar yr adeg honno.

“Dw i hefyd wedi cadarnhau wrth y Comisiwn na chafodd y rheoliadau ar nifer y bobol oedd yn bresennol ac o ran cadw pellter cymdeithasol eu torri ychwaith.”

Sesh yn y Senedd… er gwaethaf gwaharddiad ar werthu alcohol

Adroddiadau bod Paul Davies, Darren Millar, Nick Ramsay ac Alun Davies wedi bod yn yfed ar ystâd y Senedd

‘Un bach arall?’

Adroddiadau fod Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Darren Millar AoS wedi bod yn yfed ar Ragfyr 9 yn ogystal â Rhagfyr 8