Mae plismones oedd wedi torri cyfyngiadau’r coronafeirws drwy fynd i barti teulu, yfed a gyrru a tharo i mewn i adeilad wedi cael ei diswyddo.
Mae Tasia Stephens, 24, oedd yn gweithio i Heddlu’r De wedi’i gwahardd rhag gweithio yn y maes eto.
Clywodd gwrandawiad disgyblu ei bod hi ar ei chyfnod prawf gyda’r heddlu a’i bod hi wedi bod yn gweithio ar ei hachos cyntaf o farwolaeth sydyn ar y diwrnod dan sylw.
Fis Ebrill y llynedd, ar ddiwrnod y digwyddiad, cafodd hi wahoddiad i gartref ei modryb yn ystod y cyfnod clo cyntaf a bu’n yfed gwin gyda thri aelod o’r teulu.
Clywodd y gwrandawiad ei bod hi wedi clywed sôn am droseddau rhyw honedig gan aelod o’r teulu tra ei bod hi yno.
Wrth fynd adref, wnaeth hi yrru am ddwy filltir cyn taro wal ac mi wnaeth hi barhau i yrru ar ôl siarad â chydweithwyr am y digwyddiad, a doedden nhw ddim yn sylweddoli ei bod hi wedi meddwi.
Roedd lefel yr alcohol yn ei gwaed dair gwaith yn fwy na’r lefel gyfreithlon ar gyfer gyrru.
Dywedodd cadeirydd y panel disgyblu bod y digwyddiadau at ei gilydd yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol – cyhuddiad y gwnaeth hi ei dderbyn – ac nad oedd dewis ond ei diswyddo.
Bydd modd iddi apelio yn erbyn y penderfyniad.